Cofnodion:
Penderfyniadau:
1. Atal Rheol 11.4.1 y Rheolau
Gweithdrefn Contractau.
2. Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r
Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth ymrwymo i gontract ar gyfer prynu dau fws
mini ail-law ag 17 sedd sydd wedi'u haddasu ar gyfer cadeiriau olwyn, at
ddibenion cludo defnyddwyr gwasanaeth ag anghenion cymhleth, a chael gwared ar
yr hen gerbydau, am y swm a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Galluogi'r Cyngor i sicrhau'r bysus cyn iddynt gael eu gwerthu i sefydliad
arall. Bydd y bysus yn darparu cludiant o ansawdd gwell i breswylwyr mwyaf
diamddiffyn Castell-nedd a Phort Talbot y mae angen iddynt gael mynediad at
wasanaethau gofal dydd.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau.