Agenda item

Penodi Uwch-grwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Cofnodion:

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad sgrinio effaith integredig, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol, wneud y canlynol –

 

   cytuno ar y disgrifiad swydd, y telerau cytundebol a'r broses benodi ar gyfer y swydd Uwch-grwner a gwneud trefniadau addas ar gyfer hysbysebu'r swydd yn briodol;

 

        cymryd yr holl gamau angenrheidiol i symud y broses o benodi Uwch-grwner yn ei blaen;

 

        mewn ymgynghoriad â Chyngor Dinas a Sir Abertawe a Swyddfa'r Prif Grwner, sefydlu panel er mwyn llunio rhestr fer, cyfweld ag ymgeiswyr a phenodi'r ymgeisydd llwyddiannus yn Uwch-grwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

Sicrhau y penodir Uwch-grwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a bodloni gofynion cyfreithiol Deddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

Dogfennau ategol: