Cofnodion:
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am gamgymeriad yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd – dylai'r adroddiad fod wedi dweud y caiff penderfyniad
ei weithredu ‘ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau’ yn hytrach na'r hyn a
nodwyd, sef ‘ar unwaith’.
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
1.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig
i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, ymrwymo i Gytundeb y
Cyd-bwyllgor â Chyngor Sir Penfro. Mae hyn yn amodol ar Gyngor Sir Penfro yn
gwneud yr un peth yn unig, gan ystyried unrhyw fân newidiadau a all fod yn
angenrheidiol ac nad ydynt yn newid corff y ddogfen, yn unol â'r manylion yn
Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
2.
Bydd yr Arweinydd, Aelod y
Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol ac Aelod y Cabinet
dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd yn cael eu penodi'n gynrychiolwyr Cyngor
Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar y Cyd-bwyllgor.
3.
Rhoddir awdurdod i unrhyw
Aelod Cabinet eistedd fel cynrychiolydd amgen ar y Cyd-bwyllgor yn absenoldeb yr Arweinydd,
Aelod y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Chyfiawnder Cymdeithasol ac Aelod y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Thwf Economaidd.
4.
Bydd yr aelodau'n nodi
adroddiad i'r Cyngor Llawn yn y dyfodol, gan gytuno i sefydlu Cyd-bwyllgor
Trosolwg a Chraffu â Chyngor Sir Penfro.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
Cytuno i sefydlu Cyd-bwyllgor â Chyngor Sir Penfro
mewn perthynas â'r cynlluniau ariannu Ardrethi Annomestig a Chyfalaf Sbarduno a
fydd yn cael eu datblygu.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Datblygwyd y cais Porthladd Rhydd gan y ddau
awdurdod lleol, Associated British Ports ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau,
gan weithio mewn partneriaeth. Cafwyd ymgynghoriad ehangach hefyd ag amrywiaeth
eang o sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys rhwydweithiau
busnes yn ardal arfaethedig y porthladd rhydd.
Dogfennau ategol: