Agenda item

Pwll Nofio Pontardawe

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau y diwygiad a gynhigiwyd gan y Pwyllgor Craffu cynt, a oedd yn awgrymu ychwanegu'r geiriau ychwanegol at ddiwedd Argymhelliad 4:

 

'... ac i ymrwymo, pan fydd adnoddau'n caniatáu, y bydd pwll sy'n gwasanaethu ardal gyfan Cwm Tawe uchaf, Cwm Aman a Chwm Llynfell yn cael ei adeiladu.'

 

Rhoddodd Aelodau’r Cabinet ddiolch i'r Pwyllgor Craffu am eu mewnbwn ond dewisodd beidio â mabwysiadu'r diwygiad.

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.           Nodi statws presennol Pwll Nofio Pontardawe, a'r rhesymau dros y camau gweithredu a fydd yn cael eu cymryd ar sail rhwymedigaethau iechyd a diogelwch ar ran y Cyngor.

 

2.           Cymeradwyo cynllun arfaethedig i gau Pwll Nofio Pontardawe erbyn diwedd mis Awst 2024, yn amodol ar unrhyw drefniadau cau y mae eu hangen yn y tymor byr er mwyn bodloni rhwymedigaethau iechyd a diogelwch.

 

3.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles, ddechrau ar raglen gynnwys gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac awdurdodau cyfagos i archwilio ffyrdd o gefnogi mynediad parhaus at gyfleusterau nofio.

 

4.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles, gomisiynu astudiaeth dichonoldeb i ymchwilio i opsiynau ar gyfer safle yn y dyfodol, a chyllid posib ar gyfer cyfleuster newydd.

 

5.           Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a Lles, fod yn gyfrifol am ddymchwel Pwll Nofio Pontardawe.

 

6.           Defnyddio'r arbedion arfaethedig sy'n codi o gau'r cyfleuster, dros gyfnod o ddwy flynedd, i ariannu'r argymhellion a gynhwysir yn y cynnig hwn.

 

Rheswm dros y Penderfyniadau:

 

I sicrhau y cydymffurfir â rhwymedigaethau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â defnyddwyr a staff Pwll Nofio Pontardawe, i gytuno ar drefniadau ar gyfer comisiynu astudiaeth dichonoldeb ar gyfer cyfleuster newydd, ac i geisio cymeradwyaeth i ddymchwel Pwll Nofio Pontardawe.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Gwnaed y penderfyniadau ar sail diogelwch y cyhoedd. Cynhelir rhaglen gynnwys helaeth gyda defnyddwyr presennol y gwasanaeth fel rhan o'r broses i ddarparu gwasanaeth ar gyfer cynifer o bobl â phosib yn safleoedd eraill CNPT. Mae Hamdden Celtic yn ymwybodol o'r trefniadau cau posib a byddant yn allweddol wrth reoli cyfathrebu â staff a newidiadau i'r rhaglen yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd.

 

Dogfennau ategol: