Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Adroddiad Blynyddol - Ymgysylltu a Chyfranogiad
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol
fod yr eitem hon yn ymwneud â'r Gwasanaethau Plant. Bydd adroddiadau'n ymwneud
â'r Gwasanaethau Oedolion a Thai yn cael eu cyflwyno mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Cyfeiriodd yr aelodau at yr adroddiad a
amlinellodd fod cyfarfod wedi'i gynnal â landlordiaid. Holodd yr aelodau faint
o landlordiaid preifat a oedd yn y cyfarfod. Ar ben hynny, gofynnwyd faint o
landlordiaid preifat sydd yn CNPT ac a allai aelodau gael rhestr o landlordiaid
fel y gall yr aelod ymchwilio i faint o dai rhent preifat sydd ar gael o'u
cymharu ag eiddo cymdeithasau tai. Cadarnhaodd swyddogion mai landlordiaid
preifat yn unig oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Cynhaliwyd y fforwm i ddarparu
gwybodaeth, cymorth a chyngor i landlordiaid ynghylch pethau a all fod yn
berthnasol i'r landlordiaid. Y bwriad yw cynnal y fforymau hyn bob chwarter.
Dywedodd swyddogion na fyddent yn gallu darparu rhestr o holl landlordiaid
preifat yr ardal ac na allent gadarnhau faint o eiddo preifat sydd yng
Nghastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, efallai fod Iechyd yr Amgylchedd yn
cadw'r wybodaeth hon.
Dywedodd y Cadeirydd fod Rhentu Doeth Cymru'n
meddu ar lawer o wybodaeth am yr eiddo rhent preifat sydd ar gael mewn wardiau
penodol. Hefyd, gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion roi gwybod i'r pwyllgor am
unrhyw fforymau/ddigwyddiadau y gall aelodau'r pwyllgor ddod iddynt yn y
dyfodol, gan eu bod yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol i'r aelodau.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Adroddiad Cwynion Blynyddol
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar dudalen 40.
Nodwyd bod pob cwyn yn cael ei datrys yng ngham 1, ond holodd yr aelodau a oes
unrhyw gwynion yn symud ymlaen i gamau pellach. Mae'r adroddiad hefyd yn
amlinellu cwynion a gafodd eu cadarnhau'n rhannol. Holodd yr aelodau a oedd
unrhyw apeliadau. Cadarnhaodd swyddogion y byddai nifer o gwynion wedi symud
ymlaen i'r cam nesaf. Amlinellodd swyddogion wahanol gamau'r broses gwyno. Mae
Cam 1 yn ymchwiliad gan swyddogion mewnol. Mae Cam 2 yn ymchwiliad gan
swyddogion allanol ac mae Cam 3 yn atgyfeiriad i'r Ombwdsmon. Dywedodd yr
Aelodau y byddai'n ddefnyddiol gweld y nifer amrywiol o gwynion ar wahanol
gamau a amlinellir yn yr adroddiad. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'n cael
gafael ar yr wybodaeth honno ar gyfer aelodau.
Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 42 yr adroddiad
a'r weithdrefn cwynion corfforaethol. Holodd yr aelodau a oedd unrhyw gwynion
yn unol â'r weithdrefn hon a oedd yn ymwneud â'r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd swyddogion fod yr wybodaeth hon yn cael eu hanfon at swyddogion yn
wythnosol a'i bod ar gael. Mae cwynion corfforaethol yn tueddu i ymwneud â mwy
nag un gyfarwyddiaeth. Dywedodd swyddogion y byddent yn dosbarthu'r wybodaeth
am gwynion a oedd yn cael eu hystyried drwy'r broses cwynion corfforaethol.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Polisi Atal ac Adennill Ôl-ddyledion Rhent a
Thaliadau Gwasanaeth
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Mae'r polisi’n nodi proses y byddai swyddogion yn
ei dilyn i atal pobl sy'n byw mewn llety dros dro rhag cronni ôl-ddyledion, a
pha gamau a fyddai'n cael eu cymryd pe bai pobl yn methu'n barhaus â thalu eu
rhent neu eu tâl gwasanaeth. Pwysleisiodd swyddogion bwysigrwydd helpu pobl
sy'n byw mewn llety dros dro i wneud taliadau rheolaidd tuag at y costau a
nodwyd, a bod y rhai hynny sy'n wynebu ôl-ddyledion yn cael eu cefnogi a'u
helpu i weithio tuag at dalu'r ddyled honno. Yn ogystal â'r effaith ariannol ar
y Cyngor, amlinellodd swyddogion ei fod yn llawer anos i bobl adael llety dros
dro pan fydd ganddynt ôl-ddyledion a hanes o ddyled wael, a bod hyn yn rhan
bwysig o'r broses hon. Gall hyn gael effaith niweidiol ar yr unigolyn ei hun ac
arwain at gost ariannol fawr i'r Cyngor hefyd.
Amlinellodd swyddogion y broses os oes gan berson
hawl i gael budd-dal tai. Mae'r budd-dal tai yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'r
Cyngor, felly mae'n anghyffredin i bobl fynd i ddyled. Fodd bynnag, os nad yw
unigolyn yn derbyn budd-dal tai, mae angen polisi fel hyn er mwyn galluogi'r
Cyngor i gymryd camau lle mae person yn gyfrifol am dalu ei rent ac nad yw'n ei
dalu. Ochr yn ochr â rhent, codir tâl gwasanaeth gwerth oddeutu £16 yr wythnos
y mae'n ofynnol i breswylwyr sy'n byw mewn llety dros dro ei dalu. Dan yr
amgylchiadau hyn y bydd y ddyled yn codi'n aml gan fod pobl sy'n byw mewn llety
dros dro’n gyfrifol am dalu'r tâl hwnnw'n uniongyrchol i'r Cyngor. Hyd yn hyn,
ni fu llawer o oblygiadau os yw unigolyn yn methu gwneud taliadau rheolaidd i'r
awdurdod. Bydd y polisi yn nodi fframwaith clir sy'n manylu ar sut bydd yr
awdurdod yn gweithio gyda phobl sy'n cronni ôl-ddyledion yn ogystal â helpu
pobl i beidio â mynd i ddyled yn y lle cyntaf.
Gofynnodd yr aelodau am sicrwydd na fydd y
polisi'n rhoi pobl ddiamddiffyn dan anfantais. Roedd swyddogion yn cydnabod bod
pobl sy'n byw mewn llety dros dro ymhlith aelodau mwyaf diamddiffyn y gymuned
yn aml. Dywedodd swyddogion na fyddai'r polisi'n cael ei weithredu nes y
byddent yn fodlon bod popeth wedi'i wneud i geisio helpu'r unigolyn sy'n byw
mewn llety dros dro i beidio â chronni ôl-ddyledion. Rhoddwyd trosolwg i'r
aelodau o’r hyn a wneir cyn i rywun gael cynnig llety dros dro, er enghraifft
nodi'r taliadau gofynnol, darllen drwy gontractau cysylltiedig ac ati, a hynny
mewn ffordd sy'n eglur i'r unigolyn.
Pan fydd rhywun yn cael ei roi mewn llety dros
dro, dyrennir Swyddog Cefnogaeth a Llety iddo. Ei rôl yw cyfathrebu â'r person
a datblygu cynllun cymorth personol ar gyfer yr unigolyn hwnnw sy'n berthnasol
i'w amgylchiadau bywyd.
Cadarnhaodd swyddogion fod ganddynt gysylltiadau â
sefydliadau eraill hefyd, gan gynnwys Hawliau Lles, a allai helpu i gefnogi'r
unigolyn. Bydd y swyddog hefyd yn mynd gyda'r unigolyn i wahanol apwyntiadau
i'w helpu i ddeall y cyngor a ddarperir o bosib. Ar ben hynny, gall y swyddog
gyfeirio'r unigolyn i asiantaethau arbenigol sy'n rhoi cymorth ar ddyledion i’w
helpu i reoli ei ddyledion. Mae'r awdurdod hefyd yn darparu cyrsiau ‘paratoi ar
gyfer tenantiaeth’. Mae'r cwrs hwn yn helpu pobl i baratoi a meithrin y sgiliau
i reoli cartref, er enghraifft cyllidebu. Mae cymorth hefyd yn cael ei ddarparu
i helpu pobl i gael mynediad at gyflogaeth.
Rhoddodd swyddogion enghraifft lle na fyddai'r
polisi yn cael ei weithredu. Gallai hyn ddigwydd pan fydd budd-daliadau'n cael
eu hatal, gan atal yr unigolyn rhag gallu talu'r taliadau sy'n ofynnol ar gyfer
llety dros dro mwyach. Gwnaeth y swyddog helpu'r unigolyn i adfer ei
fudd-daliadau yn ogystal â gwneud ôl-daliad. Roedd hyn yn golygu y gallai'r
person wedyn ad-dalu'r ôl-ddyledion.
Holodd yr aelodau faint o ôl-ddyledion sydd heb eu
casglu ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion nad oeddent yn gwybod yr union
gyfanswm ond bod rhai symiau amlwg heb eu casglu. Dywedodd swyddogion y gallent
gael gafael ar y cyfanswm a'i ddosbarthu i'r aelodau.
Nododd yr aelodau y gefnogaeth helaeth a gynigir
gan y gwasanaeth a oedd wedi cael ei hamlygu yn ystod y cyfarfod.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd
gerbron Bwrdd y Cabinet.
Trefniadau Cyllid Grant Cymunedau Cynaliadwy'r
Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer Darparu Mannau Cynnes a Chroesawgar
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i
dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Gofynnodd yr aelodau am restr o'r mannau cynnes
sydd ar gael i bobl ar hyn o bryd. Dywedodd swyddogion y byddent yn dosbarthu'r
wybodaeth hon.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd
gerbron Bwrdd y Cabinet