Agenda item

Cwmpasu Tasg a Gorffen; Ymdrin ag Aflonyddu a Bygwth ac Amrywiaeth mewn Democratiaeth

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd i sefydlu dau grŵp Tasg a Gorffen mewn perthynas ag Ymdrin ag Aflonyddu a Bygwth ac Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

 

Amlinellodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fanylion y ddogfen gwmpasu Ymdrin ag Aflonyddu a Bygwth, fel a gynhwysir ym mhecyn adrodd yr agenda, gan ganolbwyntio ar y cwestiynau allweddol, y canlyniadau a fwriedir ac aelodaeth posib y grwpiau. Awgrymwyd y dylid cynnal y cyfarfod cyntaf yn ystod ail hanner mis Mai, lle gellir cynnal trafodaeth bord gron i nodi materion aelodau. Nodwyd bod Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth wedi cael ei gyhoeddi yn 2021 cyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol yn 2022. Nod y Grŵp Tasg a Gorffen byddai adolygu'r cynllun gweithredu a nodi ffyrdd y gellir ei hyrwyddo gan y Cyngor. Nodwyd y gellir cynnal cyfarfodydd y ddau grŵp Tasg a Gorffen ar yr un pryd.

 

Nododd aelodau y gall fod yn addas estyn y gwahoddiad i asiantaethau partner a nodwyd bod Swyddogion Atal Troseddu yn Heddlu De Cymru ar gael i ddarparu   cyngor am ddiogelwch yn y cartref a diogelwch personol i aelodau. Roedd aelodau'n teimlo bod trafodaethau ar y ddau bwnc yn amserol, ac y byddai'n ddefnyddiol trafod amrywiaeth cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf. Mae angen i ni fel Cyngor ganolbwyntio ar y camau gweithredu y gellir eu cymryd i fynd i'r afael â'r newid mewn diwylliant a nodi'r llwybrau y gall bygwth ac aflonyddu eu dilyn.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gellir cynnwys hyn fel pedwerydd cwestiwn yn y ddogfen gwmpasu.

 

Gofynnodd yr aelodau am faint posib y grwpiau Tasg a Gorffen.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd nad oedd unrhyw gynllun i gyfyngu ar faint y grwpiau, ond roedd hyn yn dibynnu ar lefel y diddordeb a ddangosir. Os yw nifer mawr o bobl yn mynegi diddordeb, gall fod angen i'r pwyllgor ystyried dulliau amgen o hwyluso hyn; os nad oes modd rheoli'r niferoedd, bydd angen lleihau'r cwmpas.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal fel rhai hybrid neu wyneb yn wyneb. Dywedodd yr aelodau fod y pwnc yn fwy addas ar gyfer trafodaeth wyneb yn wyneb.

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, gan nad yw'r cyfarfodydd Tasg a Gorffen wedi'u galw o dan ddeddfwriaeth, gall y Cadeirydd ofyn i aelodau fynychu cyfarfodydd yn bersonol, ond byddai'r cyfarfodydd yn cael eu cynnal fel cyfarfodydd hybrid ar amser a oedd yn addas i'r rhan fwyaf   o aelodau.

 

Cytunodd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i estyn y gwahoddiad i holl aelodau'r Cyngor yr oedd ganddynt ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r grwpiau Tasg a Gorffen. Byddai trefniadau'n cael eu gwneud i gael adborth gan yr holl aelodau, nid yn unig y rheini sy'n rhan o'r grwpiau Tasg a Gorffen.