Dymchwel adeileddau presennol ac adeiladu cyfleuster
cynhyrchu Tanwydd Hedfanaeth Cynaliadwy (SAF), gan gynnwys cynhyrchu hydrogen
gwyrdd a diesel cynaliadwy, ffagliad amgaeedig ar y tir, tanciau storio, gosod
gwaith pibellau a chyfarpar cyfleustodau a phrosesu trydanol, gweinyddiaeth,
storfa ac adeiladau labordy, mynediad newydd, maes parcio ac isadeiledd
trafnidiaeth gan gynnwys ardal llwytho tryciau a gwaith cysylltiedig, tirlunio
caled a meddal, ardaloedd dros dro ar gyfer gosod cyfarpar adeiladu a
datblygiad cysylltiedig yn Crown Wharf, Dociau Port Talbot, Port Talbot SA13
1RA
Cofnodion:
Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y Cais (Dymchwel
adeileddau presennol ac adeiladu cyfleuster cynhyrchu Tanwydd Hedfanaeth
Cynaliadwy (SAF), gan gynnwys cynhyrchu hydrogen gwyrdd a diesel cynaliadwy,
ffagliad amgaeedig ar y tir, tanciau storio, gosod gwaith pibellau a chyfarpar
cyfleustodau a phrosesu trydanol, gweinyddiaeth, storfa ac adeiladau labordy,
mynediad newydd, maes parcio ac isadeiledd trafnidiaeth gan gynnwys ardal
llwytho tryciau a gwaith cysylltiedig, tirlunio caled a meddal, ardaloedd dros
dro ar gyfer gosod cyfarpar adeiladu a datblygiad cysylltiedig yn Crown Wharf,
Dociau Port Talbot, Port Talbot SA13 1RA) fel a fanylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Roedd aelod y ward lleol yn bresennol i roi ei
sylwadau yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cais Rhif P2023/0858, yn unol ag
argymhellion Swyddogion, yn amodol ar yr amodau a gynhwyswyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd a'r daflen ddiwygio.
Dogfennau ategol: