Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r Asesiad Sgrinio Effaith Integredig, fod awdurdod dirprwyedig
yn cael ei roi i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes i gyhoeddi
hysbysiad ffurfiol i Hamdden Celtic, ar y ffurflen sydd wedi'i hatodi yn
Atodiad A i'r adroddiad preifat a gylchredwyd.
Rheswm dros
y Penderfyniad:
Cydymffurfio
â thelerau'r Contract, a galluogi i'r holl opsiynau ynghylch dyfodol darparu
hamdden dan do gael eu hystyried yn llawn.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith, yn dilyn cytundeb y Cadeirydd Craffu.