Cofnodion:
Ar y pwynt
hwn yn y cyfarfod, ailddatganodd y Cynghorydd J Hale ei budd yn yr eitem hon, a
gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a'r bleidlais ar hynny.
Penderfyniadau:
Bod y
canlynol, ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, yn cael ei
gyflwyno i'r Cyngor i'w gymeradwyo:
1. Bod Premiwm Treth y Cyngor o 100% ar
Anheddau Gwag Hirdymor ac Ail Gartrefi'n cael ei gymeradwyo gyda dyddiad
gweithredu o fis Ebrill 2025.
2.
Ni chodir unrhyw bremiwm lle gellir cael mynediad i eiddo gwag trwy adeilad
busnes yn unig ac nad oes ganddo fynedfa ar wahân. Ni fydd y categori hwn yn
berthnasol os yw'r adeilad yn cael ei newid i gael gwared ar fynedfa ar wahân
bresennol.
3. Ni chodir unrhyw bremiwm lle byddai
premiwm yn daladwy ar eiddo gwag hirdymor sy'n cael ei werthu, ni chodir
premiwm ar y perchennog newydd am hyd at 6 mis o'r dyddiad gwerthu tra bod
gwaith adeiladu mawr yn cael ei wneud.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
1.
Er mwyn caniatáu i bremiymau Treth y Cyngor gael eu codi ar eiddo gwag
hirdymor ac ail gartrefi, yn effeithiol o 1 Ebrill 2025.
2.
I annog perchnogion tai i ddychwelyd eu heiddo i ddefnydd da.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: