Agenda item

Diweddariad ar y Rhaglen Gyfalaf yn dilyn Canlyniad yr Ymarfer Tendro

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 

1.   Bod y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer prosiect gwaith i adleoli'r cerbydlu gwastraff yn cynyddu o'r £3.4 miliwn y cytunwyd arno'n wreiddiol i'r cyfanswm diwygiedig o £6.050 miliwn.

 

2.      Bod y Pennaeth Gofal Strydoedd, mewn ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, yn cael awdurdod dirprwyedig i ymrwymo i'r contract ar gyfer gwaith gyda'r cynigiwr llwyddiannus er mwyn adleoli'r cerbydlu casglu gwastraff ar gyfer yr Orsaf Drosglwyddo.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Er mwyn caniatáu i'r gwaith i adleoli'r cerbydlu gwastraff fynd yn ei flaen.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad staff a lywiodd y cynigion fel yr adroddwyd amdanynt i'r Cabinet ar 28 Gorffennaf 2022.