Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:
1. Bod y Gyllideb Refeniw ar gyfer
2024/2025 fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei
chymeradwyo.
2. a) Bod y Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer 2024 –
2025 am Swyddogaethau Gweithredol yn cael eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr
Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod
Cabinet perthnasol, a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol
b) Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer
Swyddogaethau Gweithredol sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen eu
gosod cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
c) Bod y Ffïoedd a Thaliadau ar
gyfer 2024 – 2025 am Swyddogaethau Anweithredol yn cael eu dirprwyo i'r
Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor,
y Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd y Pwyllgor Anweithredol perthnasol
ch) Ffïoedd a Thaliadau ar gyfer
Swyddogaethau Anweithredol sy'n berthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol
ddilynol ac, ym marn y Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol, y mae angen eu
gosod cyn y flwyddyn ariannol am resymau gweithredol.
3. Bod y cynnydd o 7.9% yn Nhreth y Cyngor
yn 2024/25 - yr hyn sydd gyfwerth â Band D ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol
Castell-nedd Port Talbot yn £1,871.76 - yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor i'w
gymeradwyo.
Rhesymau dros y
Penderfyniadau:
Er mwyn cyflawni'r gofyniad statudol i bennu’r gyllideb
ar gyfer 2024/2025.
Darparu dull ar gyfer ymdrin ag unrhyw amrywiad rhwng
setliadau dros dro a therfynol Llywodraeth Cymru.
Cytuno ar drefniadau ar gyfer gosod ffïoedd a thaliadau.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl iddo gael ei
ystyried a'i gymeradwyo gan y cyngor.
Ymgynghoriad
Cynhaliwyd cyfnod ymgynghori cyhoeddus rhwng 20 Rhagfyr
2023 a 10 Ionawr 2024. Cynhaliwyd amrywiaeth o weithgareddau ymgynghori yn
ystod y cyfnod hwnnw ac ystyriwyd yr adborth a gafwyd yn ofalus wrth
ddatblygu'r opsiynau cyllidebol fel y manylwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd.
Dogfennau ategol: