·
Dewis eitemau priodol o
agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet
ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)
Cofnodion:
Cynigion y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/25
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Holodd yr Aelodau am y gwahaniaeth mewn incwm net o'r ffigurau yn yr
adroddiad a ymgynghorwyd arnynt a'r adroddiad i'w ystyried yn ystod y cyfarfod.
Nodwyd bod y bwlch yn y gyllideb wedi lleihau tua £230,000 rhwng y ddau
adroddiad. Fodd bynnag, mae lefel treth y cyngor y mae ei hangen i gau'r bwlch
hefyd wedi lleihau o 10.3% i 7.9%. Holodd yr Aelodau sut y penderfynwyd ar y
cyfrifiadau mewn perthynas â'r incwm a nodir yn y ddau adroddiad a pha fesurau
sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y rhagolygon ar gyfer yr incwm yn gywir.
Dywedodd swyddogion fod cynigion drafft y gyllideb yn nodi y gallai treth y
cyngor gynyddu i oddeutu 10% ond nid oedd cynnig penodol yn cael ei gyflwyno yn
yr ymgynghoriad o ran y ffigur y mae ei angen i gau'r bwlch. Mae'r rheswm dros
y gwahaniaeth sylweddol yn ymwneud â rhagdybiaethau ynghylch cynllun cymorth
treth y cyngor. Ym mis Rhagfyr defnyddiwyd ymagwedd ddarbodus wrth ymdrin â'r
ffigurau gydag amcangyfrif darbodus iawn o dreth y cyngor net. Pan gyrhaeddodd
y ffigurau, roedd modd mewnbynnu'r rhain yn ôl yr angen, a oedd yn adlewyrchu
costau sylweddol llai cynllun gostyngiadau treth y cyngor.
Roedd y swyddog yn hyderus bod y ffigyrau yn yr adroddiad yn ddarbodus ac y
gellir bodloni treth y cyngor o 7.9%.
Dywedodd swyddogion na fyddai adroddiad manwl gywir yn bosib yn ystod mis
Rhagfyr gan fod yr adroddiad manwl diweddarach yn ei gwneud yn ofynnol i Capita
fewnbynnu'r newidiadau amrywiol i ffigurau budd-daliadau yn y meddalwedd yn allanol
er mwyn cwblhau'r adroddiadau gofynnol.
Gofynnodd yr Aelodau i'r newidiadau rhwng y ddau adroddiad gael eu
hamlinellu'n glir. Cytunodd swyddogion i nodi'r pwyntiau a wnaed mewn perthynas
ag amlinellu'n glir lle mae'r ffigurau'n ddarbodus a lle dengys ffigurau achos
gwaethaf, dylid tynnu sylw at hyn yn yr adroddiad gydag esboniad. Bydd
swyddogion yn sicrhau bod y syniadau hyn yn cael eu cynnwys yn adroddiadau'r
flwyddyn nesaf.
Holodd yr Aelodau am nifer yr ymatebion a dderbyniwyd o'i gymharu â'r flwyddyn
flaenorol ac a oedd ffordd o gynyddu cyfranogiad, trwy edrych efallai ar yr hyn
y mae awdurdodau lleol eraill yn ei wneud.
Dywedodd swyddogion fod 581 o ymatebion wedi cael eu derbyn rhwng
holiaduron papur ac ar-lein y llynedd o'i gymharu â'r 556 o holiaduron a
gwblhawyd eleni. Daeth 13 o ymatebion i law drwy e-bost/llythyr y llynedd o'i
gymharu â 6 eleni. Y llynedd fe wnaeth
225 o weithwyr CNPT ymgysylltu â'r ymgynghoriad o'i gymharu â 146 eleni. Y
llynedd, daeth 147 o bobl i gyfarfodydd ond 52 yn unig daeth i gyfarfodydd
eleni. O ran gweithio gyda Chynghorau eraill, cadarnhaodd swyddogion eu bod yn
rhan o weithgorau a oedd yn trafod ffyrdd amrywiol o ymgysylltu â dinasyddion.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd y cyfnod ymgynghori wedi digwydd dros y Nadolig
y llynedd. Eleni roedd hyn allan o reolaeth swyddogion oherwydd amseru'r
cyhoeddiad setliad felly doedd dim modd osgoi cynnal yr ymgynghoriad dros y
Nadolig. Cadarnhaodd swyddogion hefyd yn y dyfodol y byddent yn ceisio
ymgysylltu â digwyddiadau cymunedol i annog cyfranogiad, os yw'r cyfnod
ymgynghori'n caniatáu hyn. Hefyd, ar hyn o bryd mae yna ymgyrch barhaus i
recriwtio i Banel y Dinasyddion. Mynegodd yr Aelodau eu bod yn awyddus i
sicrhau ymgysylltiad priodol â'r cenedlaethau iau ac awgrymwyd efallai y gellid
gwneud mwy o waith mewn perthynas â'r cyfryngau cymdeithasol.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r uchafswm ar gyfer swm yr arian a drosglwyddwyd
mewn blwyddyn yw £100,000 ar gyfer cyfarwyddwyr corfforaethol, £250,000 ar
gyfer y Cabinet a £500,000 ar gyfer y Cyngor. Mae cyllideb cronfa refeniw
gwerth £2.8 miliwn mewn perthynas ag effeithlonrwydd ynni ar gyfer adeiladau
dinesig ac ysgolion. Amlinellodd yr aelodau eu dealltwriaeth fod £1.5m wedi'i
ddyrannu i Gyfarwyddiaethau yr Amgylchedd ac Addysg. Mae'n ymddangos bod y
cyllid sy'n weddill wedi'i drosglwyddo i Raglenni Cyfalaf. Holodd yr Aelodau pryd
y gwnaed y penderfyniad a phwy oedd wedi'i awdurdodi. Cadarnhaodd swyddogion
fod y £2.8m yn parhau i fod yn y gyllideb refeniw ar gyfer 23/24 lle cafodd ei
awdurdodi gyntaf ac na chafodd ei drosglwyddo i gyllidebau eraill. Cadarnhaodd
swyddogion fod £1.5m o'r gyllideb wedi cael ei wario fel y cytunwyd o fewn
Cyfarwyddiaethau'r Amgylchedd ac Addysg, defnyddiwyd 700k ar gyfer cronfeydd
wrth gefn a rhagwelir y bydd tanwariant o 600k. Cadarnhaodd swyddogion na fu
unrhyw drosglwyddiadau yn ystod y flwyddyn o'r gyllideb honno gwerth £2.8m.
O ganlyniad i'r un taliad, derbyniodd Addysg daliad untro o £721,000 i
helpu gyda thlodi tanwydd mewn ysgolion. Mae gan gostau ynni mewn ysgolion
gyfanswm o £4.7mllion ar draws y fwrdeistref. Roedd yr Aelodau'n pryderu na fydd
yr ysgolion yn cael eu hariannu i lefel ddigonol i atal tlodi tanwydd wrth
symud ymlaen a bydd hyn hefyd yn arwain at ddiffyg gallu cyflawni'r cynllun
datblygu ysgolion, lle bydd cronfeydd wrth gefn yn cael eu dileu yn y bôn.
Rhannodd y Cyfarwyddwr Addysg ei bryderon ynghylch lefelau diffygion mewn
rhai ysgolion. Mae gan bob ysgol sydd mewn diffyg ar hyn o bryd gynllun adfer.
Cadarnhaodd swyddogion yng nghyllideb ddirprwyedig ysgolion y llynedd, roedd
cynnydd o 50% ers cyllidebau'r flwyddyn flaenorol. Mae costau tanwydd ar gyfer
ysgolion yn sicr yn uwch na'r hyn a roddwyd yng nghyllideb ddirprwyedig
ysgolion hyd yn oed gyda'r ychwanegiad a ddarparwyd. Byddai'r diffyg cyllid yn
cyfrannu at orwariant cyffredinol pob ysgol. Gellir priodoli peth o'r gorwariant
i ysgolion sy'n parhau i wario eu cronfeydd wrth gefn ar adfer o COVID-19 ac
mae rhai ysgolion yn cael trafferth wrth gydbwyso eu cyllidebau o ganlyniad i
gostau mewn perthynas ag ariannu anghenion dysgu ychwanegol.
Dywedodd yr Aelodau eu bod yn ymwybodol o un ysgol a oedd wedi dechrau'r
flwyddyn ariannol gyda £12,000 dros ben ond eu bod wedi rhagweld y bydd
ganddynt ddiffyg o £95,000 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y
lefel hon o ddyled pe bai'n cael ei luosi ar draws y fwrdeistref drwy ysgolion
amrywiol a nodwyd y pryderon a godwyd gan y Cyfarwyddwr o ran cynaliadwyedd
rhai elfennau o'r gyllideb ar gyfer y dyfodol.
Mynegodd yr Aelodau eu pryder ynghylch y posibilrwydd o golli staff addysgu
a staff nad ydynt yn addysgu gan ei bod yn bosib na fydd ysgolion yn gallu
fforddio parhau i'w cyflogi o fewn y cyllidebau a ragwelir.
Dywedodd swyddogion fod y materion a godwyd yn digwydd ar draws Cymru a
bydd angen eu rheoli wrth symud ymlaen. Bydd ysgolion sydd mewn diffyg yn peri
risg i'r awdurdod. Mae amrywiaeth yr ysgolion sydd ag arian dros ben a'r
ysgolion sydd mewn diffyg ar draws yr awdurdod yn eithaf eang. Bydd llawer o'r
materion hyn yn cael eu hystyried mewn adolygiad cynaliadwyedd sydd i'w gynnal.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.
Strategaeth Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2024/25 i 2026/27
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Nododd yr Aelodau nad yw'r gronfa Codi'r Gwastad yn cynnwys y ddau gynllun
ychwanegol ym Mhort Talbot y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn a
holwyd a oedd rheswm eu bod wedi'u hepgor o'r rhaglen gyfalaf ar hyn o bryd.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r ffordd y mae'r Gronfa Codi'r Gwastad yn cael ei
rheoli gan Lywodraeth y DU yw eu bod yn eich cynghori os yw eich cais wedi bod
yn llwyddiannus, ac yn yr achos hwn roedd dau brosiect yn llwyddiannus a
derbyniwyd cadarnhad bod y cynigion wedi bod yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid
yw'r awdurdod wedi derbyn cadarnhad hyd yn hyn o'r cytundeb ariannu ffurfiol
gan Lywodraeth y DU a nes y derbynnir hyn, ni ellir ymgorffori'r prosiectau yn
y rhaglen gyfalaf.
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad mewn perthynas â rhai eitemau, yn enwedig
mewn perthynas â Rheoli Rhwydwaith y Llwybr Dosbarthu Ymylol a Phont Bwydo Dock
Road a hefyd beth sydd wedi'i gynnwys o dan Gynlluniau Adfywio Eraill?
Cadarnhaodd swyddogion o ran y Llwybr Dosbarthu Ymylol bod gwaith atgyweirio yn
cael ei wneud o amgylch y gylchfan ym Margam wrth y fynedfa gwaith gan fod
rhywfaint o ddifrod i'r ffordd gerbydau yn y lleoliad. O ran y bont mae angen
mân atgyweiriadau i'r concrit a gwelliannau/atgyweiriadau i'r rhwystrau yno.
Mae'r gwaith y cyfeirir ato'n cael ei ariannu gan yr hyn sy'n weddill o arian y
Llwybr Dosbarthu Ymylol a dderbyniwyd.
Dywedodd swyddogion, mewn perthynas â'r prosiectau sy'n cael eu cynnwys yng
nghynlluniau adfywio eraill y byddant yn dosbarthu rhestr sy'n amlinellu
manylion y prosiectau yn dilyn y
cyfarfod.
Gwnaeth yr Aelodau ymholiadau gan gyfeirio at ailddyrannu arian a oedd yn
ymwneud â Hwb Trafnidiaeth Castell-nedd a'r ffaith bod sôn am broblemau gydag
adleoli safleoedd a'r gwaith sy'n mynd rhagddo i fynd i'r afael â hyn. Holodd
yr Aelodau a oedd unrhyw newidiadau sylweddol y mae angen i aelodau fod yn
ymwybodol ohonynt mewn perthynas â'r prosiect. Cadarnhaodd y swyddogion nad
oedd unrhyw newidiadau sylweddol. Ar hyn o bryd mae gwaith i ymchwilio i'r
safle'n cael ei wneud a chaiff hyn ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth.
Gan gyfeirio at hen adeilad y Tîm Troseddau Ieuenctid ger Llys yr Ynadon,
holodd yr aelodau a oedd hwn yn gynllun swyddfa arall yr oedd yr awdurdod yn
bwriadu ei gyflawni? Cadarnhaodd swyddogion fod yr adeilad wedi'i leoli o fewn
ardal glannau'r harbwr a bod yr awdurdod yn prynu ac yn adnewyddu'r adeilad ar
sail hapfasnachol gan fod galw mawr yn yr ardal hon am lety swyddfa.
Holodd yr aelodau a oes unrhyw ddyraniad cyfalaf ar gyfer parciau a meysydd
chwarae? Cadarnhaodd swyddogion y dyraniad presennol o dan y Cynllun 'Clean Up,
Green Up', a bydd yr holl waith mewn perthynas â hyn o ran parciau a meysydd
chwarae yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth, ac eithrio'r maes chwarae
sydd wedi'i leoli ar draeth Aberafan. Fodd bynnag, cadarnhaodd swyddogion nad
oes dyraniad penodol o dan y dyraniadau arfaethedig ar gyfer gwella meysydd
chwarae dros y flwyddyn sydd i ddod. Cadarnhaodd swyddogion y bydd gwaith
cynnal a chadw ar asedau presennol yn parhau.
Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion egluro union leoliad y gwaith sy'n cael
ei wneud mewn perthynas â'r Llwybr Dosbarthu Ymylol. Cytunodd y Swyddog i
egluro a dosbarthu'r wybodaeth hon i'r aelodau.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.
Strategaeth Rheoli'r Trysorlys, Strategaeth Fuddsoddi
Flynyddol a Pholisi Darparu Isafswm Refeniw
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda.
Ni chodwyd unrhyw gwestiynau yn ystod y cyfarfod.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i fynd gerbron y Cabinet.