Agenda item

Diweddariad ar GYC ar gyfer Monitro a Gwerthuso Portffolio

Cofnodion:

Cyflwynodd Ian Williams, Rheolwr Datblygu Portffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe yr adroddiad fel y'i cynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Eglurodd yr Aelodau fod y talfyriad SMART yn golygu Penodol, Mesuradwy, Realistig, Cyraeddadwy, o fewn Amserlen y prosiect (Specific, Mesurable, Realistic, Achievable, Time based). Mae swyddogion wedi cadarnhau hyn. Cydnabu'r Aelodau fod Gwerth Ychwanegol Gros yn amorffaidd ac roedd yn anodd ei fesur a ddeall o ble roedd y penderfyniad wedi dod.

 

Dywedodd yr aelodau eu bod yn siomedig pan ddechreuodd y prosiect roedd ffigurau'n cael eu defnyddio a nawr nad oedd modd eu meintioli. Roedd yr aelodau am gael cadarnhad ynghylch ble y byddai'r gwerth ychwanegol gros yn cael ei ddefnyddio gan eu bod yn nodi y gellir ei ddefnyddio ar lefel achos busnes ond nad oes modd ei ddefnyddio mewn meysydd eraill.

Gofynnodd yr Aelodau hefyd pa farcwyr eraill a ddefnyddir i roi dealltwriaeth gyffredinol o sut y mae'r prosiect cyfan yn ei wneud yn hytrach na phrosiectau unigol gan na oes modd craffu ar brosiectau unigol oni bai bod aelodau'n gofyn yn benodol, neu os oes ganddynt gyflwyniad arnynt.

 

Dywedodd yr aelodau mai rôl craffu yw deall y gwerth i ardal gyfan Abertawe ond eu bod yn teimlo bod y pyst gôl wedi symud.

 

Esboniodd swyddogion y bydd gwerth ychwanegol gros fel cyfrifiad yn parhau i gael ei ddefnyddio yn yr achosion busnes ond yr hyn y mae'r cyfrifiad yn ei wneud yn yr arfarniad economaidd yw ei fod yn ei seiliedig ar ragdybiaethau a lluosyddion, mae hyn yn golygu na all swyddogion dystiolaethu a phriodoli ymyrraeth rhaglen a phrosiect i werth ychwanegol gros. Esboniodd swyddogion y gallant siarad am effaith economaidd adeilad a defnyddiwyd Arena Abertawe fel enghraifft ac eglurwyd y gallant siarad am effaith economaidd canlyniad uniongyrchol bodolaeth yr arena, gan gynnwys ei effaith economaidd, gwerthu tocynnau, nifer yr ymwelwyr, cefnogaeth i'r holl fusnesau uniongyrchol sy'n gysylltiedig â'r arena ac o amgylch yr arena.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai swyddogion wedyn yn defnyddio model gwerthuso i edrych ar unrhyw dystiolaeth arall ac effaith ehangach canol y ddinas a'r ardaloedd cyfagos, ar gyfer unrhyw effaith economaidd. Fodd bynnag, esboniodd swyddogion na fyddai gwerth ychwanegol gros yn cael ei ddefnyddio o reidrwydd.

 

Rhoddwyd enghraifft i'r Aelodau hefyd o'r Egin lle mae asesiadau economaidd ynghylch cam un ac mae dangosyddion effaith economaidd o fewn yr adroddiad hwnnw. Esboniodd swyddogion y bydd cael S4C fel tenant angor o fewn Yr Egin gyda'r holl gadwyni cyflenwi gyfagos a'r holl gwmnïau sy'n ymwneud â'r adeilad ei hun yn gweld effaith economaidd uniongyrchol ac anuniongyrchol ar gadwyni cyflenwi a'r ardal gyfagos.

 

Esboniodd swyddogion y bydd yr holl arfarniadau economaidd yn digwydd unwaith y bydd pethau ar waith, ond byddant hefyd yn arfarnu effaith economaidd y gwaith adeiladu. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod tua 120 o wahanol fesuriadau o ddangosyddion llwyddiant y mae pob achos busnes wedi'u nodi.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod y rheini'n ddangosyddion economaidd y maent eisoes yn eu defnyddio ac, er efallai na fydd ar lefel portffolio yn unig ar gyfer pob un ohonynt, oherwydd natur yr hyn y gallai'r prosiect neu'r adeilad ei olygu, rhoddodd swyddogion sicrwydd eu bod yn mesur yr effaith economaidd. Nid yw'n priodoli gwerth ychwanegol gros i'r portffolio.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith ar wefan y Fargen Ddinesig caiff ffigurau o £1.8 biliwn eu crybwyll a dyna beth fyddai swyddogion yn ystyried o ran gwerth ychwanegol gros ac wedi hynny, cafodd ei godi i £2.3 biliwn. Nid oedd yr aelodau'n hapus bod yr wybodaeth hon yn cael ei gyflwyno o hyd, ond ni all swyddogion ei gwirio.

 

Dywedodd swyddogion na allant ddangos tystiolaeth yn uniongyrchol, ond maent yn amcangyfrif y ffigur hwnnw o hyd a phryd mae achosion busnes yn esblygu, ac os bydd cynllun yn gwneud unrhyw newidiad arwyddocaol, byddai angen ail-wneud y gwerthusiad economaidd ond nid yw swyddogion wedi gwneud un hyd yn hyn oherwydd roedd popeth yr oeddent yn bwriadu ei wneud yn dilyn yr un cyfeiriad.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai'r unig brosiect sy'n wahanol yw ffermydd gwynt arnofiol ar y môr, ond mae arfarniad economaidd yn cael ei wneud ar yr elfen newydd honno o'r prosiect o fewn y rhaglen a bydd swyddogion yn parhau i'w werthuso a dyma'r targed o hyd, oherwydd gan na all swyddogion ddangos tystiolaeth sy'n uniongyrchol i'r portffolio. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro gwerth ychwanegol gros, ond mae cynifer o rannau symudol gallent ganfod y gallai gwerth ychwanegol gros leihau ar gyfer y rhanbarth oherwydd nid y portffolio yn unig sydd ar waith ar gyfer y rhanbarth o ran gweithgarwch economaidd. Dywedodd swyddogion y byddai'r portffolio yn creu effaith economaidd a byddant yn arddangos hynny trwy ddangosyddion eraill.

Cydnabu'r Aelodau yr anawsterau a nodwyd gan fwrdd rheoli'r prosiect ynghylch y ffaith bod gwerth ychwanegol gros yn amorffaidd ac yn anodd ei feintioli ond tynnodd yr aelodau sylw at y ffaith eu bod yn defnyddio'r niferoedd hynny i hyrwyddo gweithgarwch y fargen ddinesig er i swyddogion ddweud ei bod yn anodd gwneud hynny oherwydd ffactorau eraill a gofynnwyd i'r pwyllgor dynnu sylw bwrdd y Fargen Ddinesig at hyn fel testun pryder. Dywedodd yr Aelodau hefyd bod y gwaith craffu ar yr eitem hon wedi'i ddileu gyda chaniatâd, ond mae ffigurau gwerth ychwanegol gros yn cael eu defnyddio i'w hyrwyddo o hyd.

 

Cadarnhaodd y cadeirydd yr hoffai ysgrifennu at Gadeirydd Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe i dynnu sylw at yr anghysondeb hwn.

Mynegodd yr Aelodau hefyd y farn, os yw economegwyr yn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi edrych ar werth ychwanegol gros ac yn argymell ei fod yn offeryn mesur diffygiol ac y dylent ddefnyddio dulliau eraill, yna dylai'r pwyllgor wrando ar hynny.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod LlC ac Economegydd Llywodraeth y DU wedi cadarnhau'r cyngor hwnnw. Dywedodd swyddogion y gall gwerth ychwanegol gros aros fel prif ffigwr wrth fodelu termau yn yr arfarniadau economaidd, ond ar eu cyngor nhw nid yw'n bosibl rhoi tystiolaeth i fonitro ar y lefel honno.

 

Yn dilyn craffu ar yr eitem, penderfynodd y Cadeirydd ysgrifennu at Fwrdd Bargen Ddinesig Bae Abertawe i dynnu sylw at yr anghysondeb o ran y ffaith bod craffu ar hyn wedi'i ddileu (gyda chaniatâd), ond mae ffigurau gwerth ychwanegol gros yn cael eu defnyddio o hyd i hyrwyddo gweithgarwch y Fargen Ddinesig.

Nodwyd yr adroddiad.

Dogfennau ategol: