Cofnodion:
Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod,
ailbwysleisiodd y Cynghorydd S K Hunt ei gysylltiad â'r mater hwn, a gadawodd y
cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r bleidlais wedi hynny. Trosglwyddwyd yr
awenau i'r Cynghorydd A Llewelyn a aeth ati i gadeirio'r cyfarfod ar gyfer yr
eitem hon yn unig.
Penderfyniadau:
1.
Bydd Arweinydd y Cyngor yn gweithredu fel Cadeirydd y grŵp APSE Cymru
– Tai, Digartrefedd a Chymorth Cymunedol dros dro i ddechrau, ac yn barhaol os
byddai APSE Cymru'n penderfynu gwneud y grŵp APSE Cymru – Tai,
Digartrefedd a Chymorth Cymunedol yn barhaol.
2.
Bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi swyddog fel y Prif
Swyddog sy'n gysylltiedig â'r grŵp cynghori hwn.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Rhoi
awdurdod i Arweinydd y Cyngor weithredu fel cynrychiolydd i gorff allanol, ac
awdurdodi cyfranogiad swyddogion yn yr un gwaith.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y
penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: