Agenda item

Monitro'r Gyllideb Refeniw 3-20

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Bod cynnwys yr adroddiad a ddosbarthwyd, mewn perthynas â sefyllfa amcanol bresennol alldro'r gyllideb a’r cronfeydd wrth gefn; gan gynnwys ail-bwrpasu’r cronfeydd wrth gefn y manylwyd arnynt ym mhrif gorff yr adroddiad, yn cael ei nodi.

 

2.           Bod y trosglwyddiadau a nodir ym mhrif gorff yr adroddiad a gylchredwyd, yn cael eu cymeradwyo.

 

3.           Nodi'r cynnydd yn erbyn yr arbedion y cytunwyd arnynt.

 

4.           Bod Swyddogion yn parhau i roi mesurau arbed costau a chynhyrchu incwm ychwanegol ar waith yn ystod y flwyddyn, er mwyn lleihau'r sefyllfa gorwariant bresennol. Caiff y mesurau hyn eu cymryd dim ond lle gellir eu cyflwyno o fewn fframweithiau polisi presennol.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Cydymffurfio â chyfansoddiad y cyngor mewn perthynas â chyllidebu ar gyfer trosglwyddiadau.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Dogfennau ategol: