Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cymeradwyo Prosiectau

Cofnodion:

Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, ailbwysleisiodd y Cynghorydd S K Hunt ei gysylltiad â'r mater hwn, a gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a’r bleidlais wedi hynny. Trosglwyddwyd yr awenau i'r Cynghorydd A Llewelyn a aeth ati i gadeirio'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig.

 

Penderfynwyd:

 

Cymeradwyo'r prosiectau canlynol, a gyflwynwyd o dan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU Castell-nedd Port Talbot, Cronfa Grantiau Trydydd Parti, Cronfa Twf Cymunedau Cynaliadwy, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd -

 

1)           Canolfan Maerdy - Prosiect Peilot Galw am Reid Dyffryn Aman

2)          Canolfan Maerdy - Hyfforddiant a Gwasanaethau Gwaith Ieuenctid yn y Gymuned

3)           Cyfeillion Blaendulais - Prosiect Beiciau Cymunedol

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith a dweud wrth ymgeiswyr am y penderfyniad ariannu.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Dogfennau ategol: