Cofnodion:
Gwnaeth yr
Aelodau canlynol ddatganiadau o fuddiant ar ddechrau'r cyfarfod:
Y Cynghorydd S K Hunt Cofnod rhif 6 - Cronfa Ffyniant Gyffredin
y DU - Cymeradwyo Prosiectau, gan fod un o'r ymgeiswyr yn ymwneud â'r Prosiect
Beiciau Cymunedol, ac mae'n Is-gadeirydd/Trysorydd yr ymgeisydd (Cyfeillion
Blaendulais). Teimlodd y Cynghorydd Hunt fod y cysylltiad hwn yn rhagfarnol, a
gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a'r bleidlais wedi hynny.
Y Cynghorydd S Harris Cofnod rhif 12 - Arian Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer
2024-25 - Gan ei bod yn Gadeirydd Ffrindiau Creunant, a grybwyllir yn yr
adroddiad.
Y Cynghorydd W F Griffiths Cofnod rhif
12 - Arian Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer 2024-25 - Gan ei
fod yn Aelod o Glwb Bocsio'r Bulldogs, a grybwyllir
yn yr adroddiad.
Y Cynghorydd S Jones Cofnod rhif 12 -
Arian Grant y Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer 2024-25 - Gan ei fod
yn Ymddiriedolwr Hamdden Cymunedol Cwm Afan (Pwll Nofio'r Cymer), a
grybwyllir yn yr adroddiad.
Y Cynghorydd S Knoyle Cofnod rhif 12 - Arian Grant y Trydydd
Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer 2024-25 - Gan ei fod yn aelod o fwrdd
Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd, a grybwyllir yn yr adroddiad.