Cofnodion:
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn gofyn i Aelodau gytuno a gosod cyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
Cyn cyflwyno'r adroddiad,
nodwyd bod Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru wedi derbyn
llythyr gan Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru –
Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roedd y llythyr yn cynnwys ymateb yr
Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu i'r gyllideb ddrafft ar gyfer 2024/25, a
ystyriwyd ganddynt yn ystod ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2024.
Roedd Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Corfforaethol De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn bresennol
yn ystod y cyfarfod i ddarparu cynrychiolaeth, a chodi'r pwyntiau allweddol a
fynegwyd drwy gydol y llythyr.
Mewn ymateb, rhoddodd
Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru sicrwydd y byddai'r Pwyllgor
yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am yr adnoddau priodol er mwyn ymgymryd â'r
gwaith sy'n ofynnol ganddynt.
Esboniodd swyddogion mai
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru oedd yn gyfrifol am osod ei gyllideb
a chytuno ar yr ardoll i awdurdodau cyfansoddol; roedd yn rhaid gosod a chytuno
ar hyn cyn 31 Ionawr 2024. Ychwanegwyd bod y dyraniad ardoll yn seiliedig ar
faint y boblogaeth.
Yn debyg i'r blynyddoedd
blaenorol, daethpwyd i'r casgliad na fyddai Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol
yn destun ardoll ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am
y tri opsiwn cyllideb i'w hystyried. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid drosolwg
o'r opsiynau, a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
·
Opsiwn 1 - Cyllideb parhad yn 2024/25
·
Opsiwn 2 - Cyllideb parhad minws 10% yn 2024/25
·
Opsiwn 3 - Cyllideb Weithredol Cost Llawn Orau yn 2024/25
Cyfeiriwyd at opsiwn tri, a
oedd â gwarian a amcangyfrifir o £2,082,899. Mynegwyd y byddai'r opsiwn hwn yn
heriol iawn o ystyried sefyllfa cyllid y sector cyhoeddus a'r anhawster yr oedd
Awdurdodau Lleol yn ei wynebu o ran gosod cyllidebau.
Eglurwyd bod opsiwn un ac
opsiwn dau yr un peth o ran cyflwyno. Yr unig wahaniaeth oedd bod opsiwn dau yn
manylu ar ostyngiad o 10% ar yr ardoll gan Awdurdodau Lleol cyfansoddol, o
ystyried y pwysau cyllidebol yr oeddent yn eu hwynebu. Fodd bynnag, nodwyd y
gallai'r 10% gael ei ariannu o'r cronfeydd wrth gefn ar hyn o bryd, sy'n golygu
y gallai'r gwariant barhau i gael ei gyflawni heb dorri gwasanaethau. Byddai
defnyddio 10% o'r cronfeydd wrth gefn yn dal i ddarparu lefel iach o gronfeydd
wrth gefn, a fyddai'n caniatáu i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol gael ei ddatblygu
dros y cyfnod sydd i ddod.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
sefyllfa'r pedwar Is-bwyllgor a chyflwyno eu ffrydiau gwaith; Roedd yr
adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r hyn y gellid ei gyflawni mewn perthynas â
phob opsiwn ar gyfer cyllideb. Soniwyd y bydd cryn dipyn o waith a fydd yn
datblygu wrth symud ymlaen.
Nodwyd mai'r opsiwn a
argymhellir oedd 'Cyllideb parhad minws 10% yn 2024/25’, a fanylwyd arno fel
opsiwn dau yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Eglurwyd bod yr ail opsiwn gyda
chost o £615,049 gyda'r cronfeydd wrth gefn yn talu 10% (minws £59,071) gan roi
sefyllfa net o £555,978; Bydd y sefyllfa net hon yn cael ei rhannu rhwng y
pedwar Awdurdod Lleol ar sail poblogaeth, a hi fydd yr ardoll y bydd yn rhaid
iddynt ei chynnwys yn unigol yn eu proses pennu cyllideb eu hunain.
PENDERFYNWYD:
·
Cymeradwyo'r gyllideb ar gyfer
y Cyd-bwyllgor Corfforaethol, sef £615,049 (Parhad gyda gostyngiad ardoll o
10%), fel y manylir yn Atodiad B i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
·
Cymeradwyo'r ardoll yn
seiliedig ar boblogaeth i'r awdurdodau cyfansoddol fel a ganlyn:
Ardoll Awdurdodau Lleol 2024/25
·
Cyngor Dinas a Sir Abertawe
(Ardoll) - £191,188
·
Cyngor Sir Gâr (Ardoll) -
£151,281
·
CBS Castell-nedd Port Talbot
(Ardoll) - £114,094
·
Cyngor Sir Penfro (Ardoll) -
£99,414
Cyfanswm = £555,978
Dogfennau ategol: