Agenda item

Ymgynghoriad y Swyddfa Gartref ar Lwybrau Diogel a Chyfreithiol

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Cymeradwyo'r ymateb i'r ymgynghoriad, ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, (fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a bydd y Cyngor yn cynnig ymgartrefu nifer y teuluoedd, yn 2025, fel y nodwyd yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd. Nodwyd bod ymateb wedi cael ei gyflwyno i'r Swyddfa Gartref yn amodol ar benderfyniad y Cabinet, a chaiff ymateb ffurfiol ei gyflwyno wedi hynny.

 

2.           Caiff ymateb y Cyngor ei rannu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru/Partneriaeth Mudo Strategol Cymru a Llywodraeth Cymru.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Er mwyn galluogi'r Cyngor i ymateb i ddogfen Ymgynghoriad y Swyddfa Gartref, ac i osod terfyn ar nifer y bobl y bydd CNPT yn ceisio eu hymgartrefu yn 2025.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Mae'r penderfyniad i'w roi ar waith ar unwaith, yn dilyn cytundeb Cadeirydd Craffu'r Cabinet.