Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn agenda.
Amlinellodd
y Cadeirydd y byddai'r sylwadau o’r cyfarfod yn llunio rhan o’r ymateb ffurfiol
i’r ymgynghoriad ar y gyllideb. Atgoffwyd yr aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan
o'r broses ymgynghori ar y gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer
arbedion cyllidebol nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall
swyddogion eu hystyried cyn gynted â phosib.
Atgoffwyd
yr aelodau y dylent ystyried yr elfennau o'r gyllideb sy'n dod o dan gylch
gorchwyl y pwyllgor craffu hwn.
Aeth
yr Aelodau drwy'r llinellau cyllideb perthnasol.
Holodd
yr Aelod a oedd unrhyw adborth gan y cyhoedd ynghylch cau'r desgiau arian
parod. Cadarnhawyd na chafwyd unrhyw adborth gan y cyhoedd. Amlinellodd
swyddogion y trefniadau amgen sydd ar waith.
Cadarnhaodd
swyddogion y bydd cymorth AD yn cael ei ddarparu i rai o'r prosiectau adfywio
allanol. Er enghraifft, Porthladdoedd Rhydd, ac ailgodir tâl am hyn fel y bo'n
briodol.
Gofynnodd
yr Aelod am gadarnhad ynghylch y sefyllfa o ran colli swyddi. Cadarnhaodd
swyddogion y bydd swyddi'n cael eu colli, ond ni fydd unrhyw effaith ar y staff
presennol. Ni fydd unrhyw ddeiliaid swyddi presennol yn colli eu swyddi. Os
bydd unrhyw bwysau ar dimau o ganlyniad, bydd hyn yn cael ei reoli drwy reoli
newid.
Amlinellodd
swyddogion y cynigion ar gyfer gwneud y gorau o wasanaethau yn y Swyddfa
Gofrestru. Roedd yr aelodau'n falch o weld syniadau arloesol yn cael eu
defnyddio.
Dywedodd
swyddogion wrth yr aelodau fod ffïoedd yn ymwneud â thrwyddedau yn orfodol
ledled Cymru.
Gofynnodd
yr Aelodau eglurder o ran ailgodi tâl am y gwasanaethau a nodwyd. Cadarnhaodd
Swyddogion fod nifer y ceisiadau i'r Cyngor ymgymryd â gwaith cyfreithiol ar
faterion annadleuol ar gyfer sefydliadau, er enghraifft Cynghorau Tref a
Chymuned, wedi cynyddu. O ganlyniad bydd yr awdurdod yn ailgodi tâl am y gwaith
hwn.
Gofynnodd
yr Aelodau am wybodaeth ynghylch ailddyrannu cyllid Cyd-bwyllgor Corfforedig De
Orllewin Cymru (CBC). Cadarnhawyd bod y Cyngor yn darparu nifer o wasanaethau
i'r CBC. Yn flaenorol, mae'r symiau o arian a dderbyniwyd ar gyfer y
gwasanaethau hyn wedi'u rhoi mewn cyfrif cyffredinol, fodd bynnag bydd y symiau
hyn yn awr yn cael eu hystyried yn incwm parhaus o safbwynt cyllidebu.
O
ran yr adolygiad o ffonau symudol, bydd hwn yn ystyried ffonau nad ydynt yn
cael eu defnyddio'n llawn. Mae yna hefyd adolygiad parhaus o lungopiwyr, a lle
mae nifer yr argraffiadau’n werth llai na £3000 y flwyddyn, bydd copïwyr yn
cael eu tynnu.
Cadarnhawyd
bod incwm yn ymwneud â Chytundebau Lefel Gwasanaeth yn ymwneud â sefydliadau
allanol. Bydd Cytundebau Lefel
Gwasanaeth ychwanegol hefyd yn cael eu rhoi ar waith mewn perthynas â theledu
cylch cyfyng a fydd yn arwain at incwm ychwanegol.
Nodwyd
y bydd premiymau Treth y Cyngor ar ail gartrefi yn cael eu hystyried gan y
Cabinet ym mis Mawrth. Mae swyddogion wedi bod yn ochelgar o ran incwm posib yr
eitem hon, os caiff ei chymeradwyo gan y Cabinet. At ddibenion y polisi,
ystyrir bod y tymor hir yn flwyddyn o leiaf.
Ni
chyflwynwyd unrhyw gynigion cyllideb ychwanegol gan yr aelodau yn y cyfarfod.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: