Agenda item

Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2024/25

Cofnodion:

Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2024/25

 

Ystyriodd yr Aelodau Adroddiad Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024/25 fel y'i cyflwynwyd.

 

Amlinellodd y Cadeirydd y byddai'r sylwadau o’r cyfarfod yn llunio rhan o’r ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad ar y gyllideb. Atgoffwyd yr aelodau o'u rhwymedigaeth fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb i gyflwyno unrhyw gynigion eraill ar gyfer arbedion cyllidebol nad ydynt wedi'u cynnwys yn yr adroddiad, fel y gall swyddogion eu hystyried cyn gynted â phosib.

 

Atgoffwyd yr aelodau y dylent ystyried yr elfennau o'r gyllideb sy'n dod o dan gylch gorchwyl y pwyllgor craffu hwn.

 

Rhoddodd Nicola Pearce, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, drosolwg byr o'r cynigion cyffredinol fel y'u rhestrir yn Adroddiad Ymgynghoriad ar Gyllideb 2024/25 ac esboniodd y sefyllfa anodd y mae'r gyfarwyddiaeth yn ei hwynebu mewn perthynas â chyflawni cyllideb gytbwys.

 

Cynghorwyd aelodau bod swyddogion wedi ceisio lleihau costau a chael sicrwydd yn gyntaf drwy arbedion ac yna, ar gyfer y rheini nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y cynigion arbedion strategol hynny, byddai swyddogion yn mynd trwy'r holl gynigion fesul llinell fel y'i nodir yn Atodiad 4.

 

ENV1

 

Gofynnodd aelodau a yw'r awdurdod yn cyfathrebu â swyddogion cynllunio i nodi cyfleoedd i gynyddu gwerth trwy werthu adeiladau a thir yr awdurdod gyda chaniatâd cynllunio.

 

Cynghorodd aelodau pe byddai gan y tir neu'r adeiladau ganiatâd cynllunio ar gyfer defnydd amgen, yna bydd yn cynyddu'r pris y gall yr awdurdod ei sicrhau ar gyfer yr ased hwnnw. Dyma rywbeth y bydd swyddogion bob tro'n ei wneud, ond mae cyfyngiadau'n berthnasol i rai adeiladau, fel bod ar orlifdir.

 

Nododd swyddogion bod aelodau wedi cyfeirio at Gynlluniau Addasu a Chadernid Cymunedol (CARPs) mewn cwestiwn a gyflwynwyd cyn y cyfarfod i swyddogion ynghylch hyn. Cynghorwyd aelodau nad yw CARPs yn eich galluogi i wneud yr hyn rydych chi am ei wneud oherwydd bod gennych y cyfle i wneud y rheini. Byddai angen i swyddogion liniaru effaith llifogydd o hyd, a bydd mathau o ddefnydd ni ellir eu gosod mewn gorlifdir o hyd, hyd yn oed os oes gennych CARP ar waith. Nododd swyddogion pan fyddant yn barod i ryddhau adeilad neu dir, byddant yn nodi'r defnydd gorau ar gyfer y safle hwnnw a'r hyn y gallant gael caniatâd cynllunio ar ei gyfer, a fydd yn darparu'r cymorth gorau ar gyfer y gymuned a'r economi ac o bosib ar gyfer gofynion tai'r cyngor a'r gyllideb.

 

Ystyrir y rhain er mwyn gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer y cyngor ar y pryd yn seiliedig ar y materion hynny.

 

ENV4

 

Gofynnodd aelodau am yr arbediad o £185,000 a restrir ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ar y cymhorthdal gweithredu, a gofynnodd aelodau pa elfennau eraill sy'n rhan o'r arbediad ar wahân i ddiogelwch neu incwm dros y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Esboniodd swyddogion bod costau yswiriant a diogelwch uchel yno, a swyddogion diogelwch yw'r rhan fwyaf o'r gost honno. Y rheswm am hyn yw'r bygythiadau sydd wedi digwydd yno, gan gynnwys achos o fygwth swyddog diogelwch gyda machete, a oedd yn golygu y byddai swyddogion diogelwch ond yn gweithio mewn parau am resymau diogelwch.

 

ENV8

 

Gofynnwyd i swyddogion â phwy roedden nhw'n ymgynghori mewn perthynas â diogelwch cyhoeddus ac a ydynt wedi siarad â'r heddlu a THRIVE? Mynegodd yr aelodau mai eu prif bryder ynghylch y polisi oedd diogelwch menywod ifanc a merched yn y gymuned.

 

Nododd swyddogion fod rheolwr y cyngor ar gyfer y gwasanaeth goleuo wedi cwrdd â'r heddlu ac ag aelodau'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol (CSP) a bod gwaith yn parhau fel rhan o'r ymgynghoriadau a bod y CSP yn llunio ymateb cydlynol ar gyfer yr heddlu a phartneriaid eraill a oedd yn rhan o hynny. Bydd hyn yn rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad.

 

Gofynnodd yr aelodau a bu angen i'r cyngor ddiffodd a phylu goleuadau yn y gorffennol, ac am ganlyniadau pylu a diffodd y goleuadau ar y pryd.

 

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y cynhaliwyd trafodaethau yn y gorffennol ynghylch hyn oherwydd bod yr awdurdod wedi cael problemau ynni'n flaenorol, ond nid ystyriwyd hyn yn ffurfiol cyn hyn o ran diffodd goleuadau.

 

Esboniodd swyddogion fod yr awdurdod wedi buddsoddi llawer mewn gwaith arbed ynni, gan gynnwys newid y gêr swîts, newid y mathau o lampau, gosod LEDs a gosod systemau rheoli canolog. Cyfeiriodd swyddogion at yr adroddiad a ddaeth i'r pwyllgor fel rhan o'r broses ymgynghori a nododd y byddai'r bil trydan wedi costio hyd at £700,000 pe na fyddai'r gwaith wedi cael ei gwblhau.

 

Esboniodd swyddogion eu bod wedi cwblhau'r gwaith hwnnw a bod nifer o lampau bellach wedi'u pylu a bod rhai wedi'u pylu ddwywaith. Dyma'r rheswm pam mae'r swyddogion bellach yn trafod pylu'r goleuadau ynni uchel sy'n weddill. Gosodir goleuadau LED bellach o ganlyniad i arbedion blaenorol ac mae swyddogion yn ceisio ennill rhagor o arbedion o ganlyniad i welliannau blaenorol.

 

Gofynnodd yr aelodau ai treial oedd hwn, neu ai dyma fydd yr ganwaelodlin wrth symud ymlaen, a gofynnwyd pe gwnaed y penderfyniad i ailddechrau pylu'r goleuadau i'r lefelau cyn 2024/25, a fyddai'r awdurdod yn chwilio am £300,000 ychwanegol yng nghyllideb 25/26?

 

Nododd swyddogion eu bod yn deall mai addasiad gwaelodlin yw hyn. Gwnaethant hefyd nodi pe byddai'r goleuadau'n cael eu pylu neu eu diffodd am ran o'r noson ac yna pe newidiwyd y penderfyniad hwnnw eto, byddai pwysau cyllidebol yn gysylltiedig â hynny oherwydd bod addasiad gwaelodlin wedi bod.

 

Nododd aelodau y cafwyd llawer o fuddsoddiad mewn ystâd goleuo strydoedd dros y blynyddoedd ond gofynnwyd a luniwyd achosion busnes eraill er mwyn buddsoddi mewn goleuadau LED a fyddai'n caniatáu i swyddogion wneud arbedion heb effeithio ar breswylwyr, gan fod adroddiadau blaenorol yn nodi bod nifer sylweddol o lampau fflworoleuol na ellir eu pylu ymhellach yn bodoli.

 

Esboniodd swyddogion fod benthyciadau di-log Salix ar gael i'r cyngor ac mae swyddogion wedi cyflwyno achosion busnes ac wedi bod yn llwyddiannus. Mae hyn wedi arwain at ddisodli'r holl oleuadau lle mae achos busnes sy'n bodloni'r gofyniad am y cyllid hwnnw.

 

Rhoddwyd gwybod i aelodau nad yw'r goleuadau fflworoleuol a osodwyd fel rhan o'r gwaith adnewyddu ar raddfa fawr yn defnyddio llawer o ynni ac mae'r fantais o newid y rhain i oleuadau LED yn fach iawn o ran ynni. Esboniodd swyddogion fod gwneuthurwyr yn dechrau peidio â chreu'r lampau fflworoleuol, felly mae gan yr awdurdod raglen dreigl er mwyn disodli'r lampau fflworoleuol hynny a defnyddio'r rhannau yn y rheini maent yn eu disodli ar gyfer rhai eraill.

 

Caiff y goleuadau fflwroleuol eu newid dros gyfnod, ond nid oes achos busnes i gyflwyno cais am yr arian i'w newid oherwydd nid yw'r arbedion ar gael.

 

Roedd yr aelodau am gadarnhau a wnaed y gwaith newid y lampau fflworoleuol â goleuadau LED ar raddfa fawr yn ardal Sandfields y tu allan i'r rhaglen Salix neu o ganlyniad i fuddsoddiad yr awdurdod, neu a oedd yr achos busnes wedi newid yn y cyfamser.

 

Nododd swyddogion y gall fod wedi'i wneud fel rhan o raglen adnewyddu'r awdurdod, ond byddai angen iddynt wirio hyn. [Cadarnhawyd y'i gwnaed fel rhan o waith SALIX]

 

Gofynnodd aelodau faint o waith ymchwilio a wnaed i ddiogelwch cerbydau ar ffyrdd lle mae goleuadau wedi'u pylu a gofynnwyd o ble mae'r swyddogion yn cael yr wybodaeth ddiogelwch.

 

Esboniodd swyddogion eu bod wedi cyflogi ymgynghorydd er mwyn llunio'r cynigion gwreiddiol ac yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Craffu, anfonwyd adroddiad yr ymgynghorydd i holl aelodau'r pwyllgor. Mae'r adroddiad yn nodi'r holl agweddau gwahanol a ystyriwyd wrth lunio'r cynigion.

 

Nododd aelodau bod swyddogion yn ymgynghori â'r heddlu a'r CSP oherwydd bod yr heddlu'n arbenigo yn y maes hwn. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod y swyddogion yn derbyn adroddiad llawn oddi wrth yr heddlu sy'n nodi ei ddadansoddiad o'r sefyllfa a'r ffactorau cyfrannol bob tro mae marwolaeth.

 

Dywedodd aelodau fod amrywiaeth o adroddiadau ar-lein ynghylch pylu goleuadau ac mae dadlau dros y ddwy ochr, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn nodi nad oes llawer o effaith ar drosedd neu ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd yr aelodau am ofyn a fyddai'n well adolygu'r penderfyniad pe bai cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu a ddylid adolygu'r penderfyniad ar ôl cyfnod.

 

Nododd swyddogion fod llawer o'r goleuadau eisoes wedi'u pylu, ac maent wedi'u pylu ers amser hir. Roedd swyddogion yn teimlo y byddai'n synhwyrol i barhau i adolygu pethau a thrafod yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad sy'n dod a chynnal adolygiad ar ryw adeg ar ôl hynny.

 

ENV9

 

Roedd aelodau am gadarnhau a yw'r arbediad hwn yn dibynnu ar unrhyw gynnydd mewn cyfraddau ailgylchu neu unrhyw newidiadau mewn ymddygiad preswylwyr ac a yw'n adenilliad ar fuddsoddiad a wnaed gan y cyngor.

 

Nododd swyddogion fod £400,000 wedi'i arbed hyd yn hyn ac mae'n gysylltiedig â'r offer didoli a osodwyd. Yn ogystal, mae gan y cyngor strategaeth ailgylchu lle mae'n ceisio cynyddu faint o ailgylchu a wneir a lle mae'n gwneud hynny, ac mae swyddogion yn ystyried ail-fuddsoddi’r arian er mwyn cynyddu ailgylchu.

 

Amlygodd aelodau i'r swyddogion fod trafodaeth wedi bod ar-lein ynghylch newid i gasgliad sbwriel bob 3 wythnos, a nodwyd yn atodiad 5 fel awgrym. Gofynnodd aelodau a oedd y £400,000 yn dibynnu ar newidiadau fel hynny ac ar newidiadau i gyfraddau ailgylchu.

 

Esboniodd swyddogion nad dyna yw'r sefyllfa ac y gwnaed yr arbediad a nodwyd yn eitem ENV9 oherwydd y gwaith didoli gwell y gall y cyngor ei wneud oherwydd nad oes halogi oherwydd deunyddiau gwahanol mewn un llwyth. Gall swyddogion dderbyn pris gwell bellach ar gyfer yr ailgylchu hynny, sy'n helpu'r awdurdod i wireddu'r incwm ychwanegol o £400,000.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau fod gan y strategaeth gwastraff a lunnir ar hyn o bryd sawl argymhelliad sy'n bwriadu cynyddu ailgylchu fel y gall yr awdurdod gyflawni'r targed 70% oddi wrth Lywodraeth Cymru erbyn 2024/25. Os na all yr awdurdod gyflawni'r targed hwnnw, bydd o bosib yn agored i gosbau ariannol sy'n golygu bod gofyniad i wneud popeth sy'n bosib i gyflawni'r targed.

 

Esboniodd swyddogion mai'r effaith anuniongyrchol ar y targed arbedion byddai fod gan y cyngor fwy o ailgylchu y gall werthu i farchnadoedd gwahanol, a byddai hyn yn golygu mwy o incwm ar ben y lefelau ailgylchu presennol y mae'r awdurdod yn eu prosesu drwy'r orsaf drosglwyddo.

Bydd effaith uniongyrchol, ond mae'r effaith uniongyrchol sy'n arwain at yr arbediad hwnnw o £400,000 yn gysylltiedig â'r offer didoli gwell.

 

ENV9

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet dros y Strydlun i swyddogion roi sicrwydd i'r aelodau nad yw unrhyw gynigion ynghylch casgliadau bob 3 wythnos yn rhan uniongyrchol o'r ymgynghoriad presennol ar y gyllideb ac y byddai unrhyw gynigion o'r fath yn cael eu hystyried gan y pwyllgor hwn a Bwrdd y Cabinet yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd hefyd i Aelod y Cabinet neu'r swyddogion gadarnhau a yw'r strategaeth gwastraff bresennol yn nodi y bydd yr awdurdod yn cynghori ynghylch casgliadau bob 3 wythnos y flwyddyn ariannol hon gyda dyddiad gweithredu y flwyddyn nesaf.

 

Rhoddodd swyddogion wybod y disgwylir adroddiad diweddaru ar yr holl strategaeth gwastraff, cyflwyniad y cynllun gweithredu a'r holl waith manwl a wnaed i nodi sut olwg fyddai ar y casgliadau bob 3 wythnos o ran y rowndiau a'r manylion pwysig ar gyfer ochr fewnol yr ymgynghoriad â chydweithwyr yr undeb llafur.

 

Esboniodd swyddogion hefyd y byddai angen iddynt ystyried yn union pryd gallant ymgynghori ond eu bod yn bwriadu gwneud yr ymgynghoriad o hyd. Cadarnhaodd swyddogion nad yw lleihau amlder y gwastraff gweddilliol yn rhan o'r cynigion cyllidebol neu ymgynghoriad y gyllideb, ond mae'n rhan o'r strategaeth gwastraff cytunedig y maent yn ystyried ei gweithredu, os bydd angen, er mwyn cyflawni'r targed ailgylchu 70% ac osgoi'r dirwyon a difetha'u henw da.

 

Nododd swyddogion fod angen dechrau'r ymgynghoriad hwnnw cyn gynted â phosib oherwydd bod angen amser i fynd drwy'r prosesau o gasglu'r holl wybodaeth a bod yn barod i wneud hynny ac adrodd yn ôl i'r pwyllgor. Dyma'r rheswm pam y mae swyddogion wedi gorfod ei ddechrau, fel y gallant gwblhau'r ymgynghoriad, a phe byddai angen i'r awdurdod ddechrau gwneud casgliadau bob 3 wythnos, gallant wneud hynny ond byddai'n destun penderfyniadau yn y dyfodol.

 

Cydnabu swyddogion y byddai pawb yn dilyn y ffigurau perfformiad yn agos, a bod pawb yn gwneud eu gorau i gynyddu'r rhain ynghyd ag elfennau eraill ar y cynllun gweithredu. Os gall pawb gydweithio â'r cyhoedd, gall yr awdurdod gyrraedd 70% a byddai hyn yn lleihau'r pwysau o ran gwneud newidiadau.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd a fydd y cynllun yn mynd rhagddo gan fod yr ymgynghoriad yn ei flwyddyn ddiwethaf fel y'i nodir yn y strategaeth gwastraff, ond nid yw unrhyw effeithiau ariannol cadarnhaol, pe byddai hyn wedi cynyddu dros y flwyddyn ariannol nesaf, wedi'u cynnwys yn y gyllideb, sy'n golygu na fyddai unrhyw gynnydd mewn ailgylchu o bosib wedi'i gynnwys yn hyn a byddai'n fonws pe byddai hynny'n digwydd.

 

Cadarnhaodd swyddogion y byddai unrhyw arbedion cysylltiol yn cael eu hailfuddsoddi er mwyn ehangu gwasanaethau ailgylchu, felly ni fyddant yn arbed trwy wneud casgliadau bob 3 wythnos oherwydd ein bod wedi bod yn ailfuddsoddi'r arian hwnnw ac yn ehangu'r gwasanaethau ailgylchu.

 

Esboniodd swyddogion fod posibilrwydd pe byddai'r awdurdod yn cynyddu ailgylchu y byddai'n cynyddu'r incwm, ond gall cyfraddau ailgylchu gynyddu a gostwng.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet i'r swyddogion am esbonio na fyddai'n rhan o'r ymgynghoriad presennol ar y gyllideb, sy'n wahanol i'r wybodaeth a roddwyd ar-lein, a nes ei fod ef a'i gydweithwyr yn y Cabinet yn gwneud penderfyniad ynghylch casgliadau bob 3 wythnos, gall hynny aros tan yn hwyrach.

 

 

ENV11

 

Nododd aelodau eu bod yn gobeithio y byddai'r arbediad o £25,000 wedi dod o ganlyniad i strategaeth ailhyfforddi oherwydd y difrod y mae'r cyhoedd yn ei weld o ganlyniad i'r ffordd y mae'r staff yn trafod y cynwysyddion. Roedd aelodau hefyd am gael eglurder ynghylch y dystiolaeth y mae'r arbediad o £25,000 yn seiliedig arno.

 

Nododd swyddogion fod rheolwr y gwasanaeth wedi edrych ar hyn ac mae ganddynt ystadegau o ran nifer y biniau maent yn eu prynu a faint sy'n cael eu gosod allan ac maent wedi derbyn gwybodaeth bellach o ganlyniad i newidiadau i rai o'r cwestiynau a gofynnir gan y gwasanaethau i gwsmeriaid pan fydd pobl yn ffonio i ofyn am fin newydd.

Gofynnwyd i'r cyhoedd a yw hyn wedi digwydd o ganlyniad i ymddygiad y criw. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chydberthyn i'r criwiau sy'n gwneud y gwaith a gall swyddogion bellach eu hailaddusgu a siarad â'r criwiau â'r niferoedd uchaf o adroddiadau.

 

Bydd angen i reolwr y gwasanaeth wneud penderfyniad oherwydd bod rhai o'r cynwysyddion hyn a dorrir o ganlyniad i fath o fin a brynwyd yn flaenorol nad ydynt wedi profi i fod yn gadarn ac nid ydynt yn cael eu defnyddio bellach, ond maent ar gael o hyd ac yn dal i fod yn y system a phrofir eu bod yn fwy bregus. Nododd swyddogion fod ymagwedd dwy ran ar waith i gael gwared o'r cynwysyddion hynny allan o'r system, ond maent hefyd yn ymdrin â'r criwiau nad ydynt yn gofalu am yr offer fel y dylent fod yn ei wneud.

 

ENV12 - terfynu Cytundeb Hawliau Mynediad Cyhoeddus Camlas Nedd ar hyd y rhan isaf ac ENV13 - terfynu Cytundeb Trwydded ar ran uchaf Camlas Nedd.

 

Cododd y Cadeirydd ei bryder ynghylch mynediad at y llwybr halio. Gofynnodd gan mai llwybr teithio llesol yw hwn ac nad yw'r hawliau tramwy cyhoeddus ar gyfer cerdded yn rhoi mynediad ar gyfer beicio, mae'n pryderu os bydd y cyngor yn terfynu'r cytundeb ac yna'n ceisio trafod rhywbeth yn hwyrach yn y cyfamser y bydd risg y gall perchennog y llwybr halio beidio rhoi mynediad tuag ato os na fydd cytundeb mynediad cyhoeddus ar gyfer rhannau ohono. Fel arall, efallai y bydd yn cymryd camau i atal beicwyr os mai ei unig ofyniad yw cynnal a chadw hawl tramwy cyhoeddus.

 

Gofynnodd y Cadeirydd hefyd gan fod yr awdurdod wedi sicrhau cyllideb sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r llwybr teithio llesol ar hyd y llwybr halio, a yw'r awdurdod o dan unrhyw rwymedigaeth i gymryd camau synhwyrol i barhau â'r cytundeb trwydded?

 

Nododd swyddogion fod y cytundeb trwydded yn perthyn i ran uchaf y gamlas tuag at Resolfen yng ngogledd Abergarwed a'r hyn y mae'r cytundeb trwydded yn ei ddarparu ar ben y cytundeb mynediad cyhoeddus yw mynediad at y corff dŵr. Nododd swyddogion fod sefydliad yn gweithredu yno yn ystod misoedd yr haf sy'n llogi padlfyrddau a cheufadau. Bydd yr awdurdod yn cynnal trafodaethau â St Modwen i roi cytundeb mynediad cyhoeddus ar waith lle bydd yr awdurdod yn cynnal a chadw'r llwybr halio'n unig fel rhan o raglenni cynnal a chadw parhaus y cyngor.

 

Cydnabu swyddogion fod hyn yn rhan bwysig o'r rhwydwaith teithio llesol ond mae'r bwlch cyllid mor sylweddol nes bod swyddogion wedi gorfod edrych ym mhob man i wneud arbedion. Dywedodd swyddogion eu bod yn gobeithio y byddai'r perchennog yn ystyried y sefyllfa i fod yn un ffafriol pe byddai'n derbyn cyfle i rywun arall gynnal a chadw ased y byddai fel arall yn gorfod ei gynnal a chadw ei hun.

 

Nododd swyddogion na all yr awdurdod warantu canlyniad cadarnhaol, ond y byddai swyddogion yn gwneud eu gorau yn y cefndir i sicrhau canlyniad cadarnhaol oherwydd eu bod yn cydnabod pwysigrwydd llwybr halio'r gamlas. Mae'r cynnig a gynigiwyd wedi'i awgrymu oherwydd bod y broblem o ran y gyllideb mor sylweddol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i egluro nad yw'r pryder ynghylch atebolrwydd mewn perthynas â'r cytundeb trwydded wir yn effeithio ar y llwybr halio ar y llwybr teithio llesol. Mae'r penderfyniad ynghylch llwybr halio'r llwybr teithio llesol yn bryder cyllidebol oherwydd y swm £35,000 y mae'r awdurdod yn ei dalu ar hyn o bryd, felly nid yw'r penderfyniad o dorri £35,000 o ganlyniad i'r atebolrwydd trosgynnol.

 

Nododd yr aelodau fod yr awdurdod wedi nodi bod angen arbed £35,000 oddi ar y gyllideb ac mai dyma un o'r opsiynau a'u bod wedi cael eu gorfodi i ystyried hyn oherwydd bod y broblem o ran y gyllideb mor anodd, mae angen gwneud arbedion yn unrhyw le, hyd yn oed os mai symiau bach ydynt.

 

Bydd swyddogion yn ceisio lliniaru hynny trwy gynnal trafodaethau â pherchennog y tir er mwyn cael cytundeb mynediad cyhoeddus lle nad oes angen i ni dalu rhywun arall i wneud y gwaith ar ran yr awdurdod a bydd yr awdurdod ei hun yn gwneud y gwaith.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd fod dau gwmni preifat yn rhan ohono ac mae gan un ohonynt gronfeydd mawr ac mae wedi elwa o flynyddoedd o ddefnydd diwydiannol o'r gamlas oherwydd diwydiannau lleol, ond nid yw am fuddsoddi unrhyw arian fel adenilliad. Teimlodd ei fod yn bryd iddynt gymryd cyfrifoldeb a gwneud pethau hefyd.

 

ENV14

 

Nododd aelodau fod cronfeydd ysgolion yn diflannu ac y byddai eu hanfonebu ar gyfer gwasanaethau, hyd yn oed os nad yw'n swm mawr, fod yn swm enfawr i ysgolion nad oes ganddynt y cyfleuster hwnnw.

 

Gofynnodd aelodau pe byddai ysgolion yn defnyddio cwmni preifat i dderbyn y gwasanaeth am bris rhatach, a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r un safon ag y mae'r cyngor yn ei ddarparu ar hyn o bryd, ac a fyddai'n peri risg i dir yr ysgolion?

 

Nododd swyddogion fod arfer cyfrifyddiaeth da'n golygu bod y gost yn dychwelyd i'r maes lle codwyd y costau, fel bod pawb yn gwybod ble y gwariwyd yr arian a'r rheswm dros y gwariant. Mae swyddogion o'r farn bod rhai ysgolion wedi defnyddio contractwyr eraill yn flaenorol a'u bod wedi dod yn ôl i'r cyngor oherwydd eu bod yn gwybod ei fod yn darparu gwasanaeth da gydag iechyd a diogelwch da.

 

Gofynnodd aelodau pe byddai ysgolion yn dechrau defnyddio contractwyr preifat, a fyddai'n dechrau bygwth lefelau cyflogaeth y cyngor oherwydd bod llai o waith ar gael iddynt. Nododd swyddogion fod oddeutu 190 o bobl yn gweithredu yn y gwasanaethau cymdogaethau a bod y gyfradd trosiant bron ar lefel naturiol, felly gall ddarparu peth newid oherwydd bod y gweithlu'n hŷn ac mae pobl yn ymddeol yn aml, felly ni fyddai swyddogion yn profi unrhyw drafferth wrth ddarparu unrhyw newid pe byddai hynny'n digwydd.

 

 

ENV25

 

Nododd swyddogion fod pont mewn cyflwr gwael ar droedffordd yr adroddwyd amdano am dros flwyddyn ac nid yw wedi'i drwsio, a bod arbed arian y gyllideb yn beth da, ond ar ryw adeg, byddai gan yr awdurdod atebolrwydd am rywun yn baglu ac yn cael anaf.

 

Eglurodd swyddogion fod y gyllideb cefn gwlad a mynediad yn berthnasol i welliannau i arwyneb yr hawliau tramwy cyhoeddus, gan gynnwys tocio llystyfiant etc., ac mae'r cwestiwn felly'n berthnasol i adeileddau ar y rhwydwaith hawliau tramwy a bod cyllideb wahanol ar gyfer hynny.

 

Nid yw swyddogion yn cynnig torri'r gyllideb honno ac mae'r tîm peirianneg yn bennaf yn ymdrin ag adeileddau mwy a bod y tîm mynediad at gefn gwlad a bywyd gwyllt yn ymdrin ag adeileddau llai.

 

Mewn perthynas â pheirianneg, esboniodd swyddogion eu bod wedi cynnal adolygiadau mewnol o swyddogaethau gwasanaethau a'r cynnig o fis Ebrill ymlaen yw y cynhelir y rhaglen arolygu mewn perthynas â phontydd ac adeileddau ar hawliau tramwy cyhoeddus gan y tîm peirianneg drwy'r tîm adeileddau.

Nid oes unrhyw gyllideb o reidrwydd felly byddant yn gallu gwneud y gwaith arolygu ond lle bydd adeileddau'n methu o ran mynediad a diogelwch y cyhoedd, bydd angen i swyddogion ymateb yn briodol a bydd angen iddynt sicrhau cyllid cyfalaf ar gyfer atgyweirio'r adeileddau mwy sy'n fwy cymhleth.

 

Mae swyddogion yn credu y byddant yn defnyddio'r refeniw a'r cyllid cyfalaf arferol ar gyfer y tîm pontydd i geisio cefnogi'r gwaith hwnnw, felly byddant yn gwneud llai o waith mewn mannau eraill ar gyfer y portffolio pontydd ehangach, ond yn anffodus, dyma sefyllfa ariannol yr awdurdod ar hyn o bryd.

 

Nododd swyddogion nad oes cyllideb benodol ar gyfer cynnal a chadw adeileddau ar y rhwydwaith ffyrdd ac maent yn defnyddio'r gyllideb adeileddau i wneud unrhyw waith argyfwng angenrheidiol i gadw'r ffyrdd ar agor. Pwysau adeiladu yw hyn a chan eu bod yn adeileddau sy'n heneiddio, nid yw'r broblem yn mynd i ddatrys ei hun a bydd angen i swyddogion gynnal asesiad risg a'u cynnal a'u cadw.

 

Gofynnodd aelodau am grwpiau gwirfoddol ac roeddent am wybod sut y goruchwylir Cyfeillion Parc Margam a Chyfeillion Parc y Gnoll yn eu gwaith ac a oes ganddynt bobl gyfrifol sy'n goruchwylio'r hyn maent yn ei wneud? Gofynnodd y Cadeirydd hefyd a fyddai defnyddio gwirfoddolwyr yn helpu â'r sefyllfa o ran hawliau tramwy cyhoeddus.

 

Nododd swyddogion mewn perthynas â Pharc Margam a Chyfeillion Parc Margam, eu bod wedi'u lleoli mewn parc felly mae'n awyrgylch caeedig ac mae nifer sylweddol o aelodau staff yn gweithio ym Mharc Margam sy'n ymwneud yn rheolaidd â'r grŵp hwnnw, felly mae cyfleoedd ar gyfer goruchwyliaeth barhaol yno.

 

Mewn cymhariaeth, mae'r hawliau tramwy'n filoedd o gilometrau o hyd a dau swyddog yn unig sy'n gweithio ar ei hyd, felly nid oes ganddo'r tîm sydd ym Mharc Margam na chynifer o aelodau staff â Pharc y Gnoll. Nododd swyddogion y gall fod yn gynnig o ran ceisio sefydlu cynllun cynnwys y gymuned yn y dyfodol, ond fel cyfarwyddiaeth ar gyfer yr asedau hyn, nid oes ganddi'r adnoddau hynny o ran staff neu gyllid.

 

Atodiad 5

 

Roedd aelodau wedi'u drysu o ran y rheswm pam bod yr awgrymiad ar gyfer casgliadau bob 3 wythnos wedi'i gynnwys yn yr awgrymiadau cyllideb yn Atodiad 5 2023-2024 os nad yw'n gynnig cyllidebol.

 

Esboniodd swyddogion eu bod wedi derbyn beirniadaeth oddi wrth ria swyddogion ac aelodau'r cyhoedd o ran y rheswm pam fod cynigion a awgrymwyd yn flaenorol wedi symud yn eu blaenau ac roedd swyddogion o'r farn y byddai'n ddefnyddiol i aelodau weld beth ddigwyddodd â'r awgrymiadau a ddaeth yn rhy hwyr i'w hystyried ar gyfer cyllideb 23/24 ac i ddangos beth wnaeth swyddogion, pa awgrymiadau a symudwyd yn eu blaenau a'r rhesymau dros beidio â datblygu rhai ohonynt. Ymddiheurodd swyddogion am y dryswch.

 

Atodiad 7

 

Nododd aelodau fod llinell yn sôn am batrymau agor diwygiedig adeilad y Ganolfan Ddinesig a oedd yn nodi y gellid cynnal cyfarfodydd pleidiau gwleidyddol, hyfforddiant ac apwyntiadau'r maer yn rhywle arall oherwydd natur y cyfarfodydd a gynhelir yn hwyrach yn y dydd. Roedd aelodau am wybod a ddarperir hynny'n uniongyrchol iddynt.

 

Nododd swyddogion fod Noelwyn Daniel, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol wedi gwrthod hyn fel opsiwn oherwydd y byddai angen cynnal y cyfarfodydd hyn gyda'r hwyr.

 

Gofynnodd aelodau am y cyfeiriad at ad-drefnu adeiladau dinesig i leihau costau llogi adeiladau allanol gyda tharged arbedion o £100,000 yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynghylch pa ran o'r gyllideb y mae hynny'n rhan ohoni oherwydd nid yw wedi'i nodi yn unrhyw un o'r cyllidebau unigol.

 

Mae swyddogion wedi nodi bod cyfle posib i symud y math hwnnw o waith yn ystod y mathau hynny o gyfarfodydd i'r Ganolfan Ddinesig yn hytrach nag mewn ystafelloedd allanol a logir. Nid yw'r swm o £100,000 wedi'i gynnwys fel arbediad cyllidebol oherwydd nad yw'r cyfleusterau yn y Ganolfan Ddinesig ar gael bellach, felly maent yn cael eu hailfodelu ar y llawr gwaelod.

 

Nid yw unrhyw arbedion wedi'u tybio oherwydd bod angen i swyddogion aros nes bod y Ganolfan Ddinesig wedi'i hailfodelu ac mae angen iddynt weld a yw'r cyfarfodydd hynny'n cael eu symud i'r Ganolfan Ddinesig oherwydd ni fydd rhai o'r pethau ar yr amserlen, fel clybiau rhiant a phlant bach, yn symud i'r Ganolfan Ddinesig.

 

Bydd swyddogion yn olrhain niferoedd cofrestru ar gyfer hynny'r flwyddyn nesaf ac os byddant yn gweld arbediad o £100,000 neu os gallant dalu trwy grant, bydd y swyddogion yn nodi hynny yn yr amserlen arbedion posib ar gyfer y flwyddyn olynol.

 

Ni chyflwynwyd unrhyw gynigion cyllideb ychwanegol gan yr aelodau yn y cyfarfod. Yn dilyn gwaith craffu, nododd yr Aelodau yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: