Agenda item

Cyllid Grant y Trydydd Sector

Cofnodion:

Cyflwynodd swyddogion argymhelliad diwygiedig i'w ystyried, yn dilyn cefnogaeth Pwyllgor Craffu'r Cabinet blaenorol. Roedd hyn er mwyn rhoi mwy o amser i swyddogion benderfynu a oedd ffynonellau cyllid amgen ar gael i nifer o'r ymgeiswyr. Derbyniodd y Cabinet yr argymhelliad diwygiedig, sy'n cael ei adlewyrchu fel y penderfyniad isod.

 

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo'r grant (a nodwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad a ddosbarthwyd) i Ganolfan Maerdy ac Ymddiriedolaeth Datblygu Ystalyfera, a nodi bod y ceisiadau ychwanegol am grantiau yn cael eu dwyn i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol ym mis Ionawr 2024 i'w penderfynu gan yr Aelodau.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Cymeradwyo grantiau i sefydliadau'r trydydd sector yn unol รข Chynllun y Cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Mae'r penderfyniad i'w roi ar waith ar unwaith, yn dilyn cytundeb Cadeirydd Craffu'r Cabinet.

 

Dogfennau ategol: