Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)  

 

Cofnodion:

Cyllideb 2024/25

 

Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr y sefyllfa gyllidebol heriol ar gyfer 2024/25. Cynhaliwyd ymarfer helaeth ynghylch cynyddu incwm a lleihau gwariant ar gyfer y flwyddyn, wrth gynnal swyddi a gwasanaethau o fewn y Cyngor.  Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r setliad dros dro cyn y cyfarfod. Mae'r setliad arfaethedig ar gyfer 2024/25 yn mynd i waethygu sefyllfa'r gyllideb y tu hwnt i'r hyn a nodir yn yr adroddiad. Y bwriad yw i swyddogion gynnal asesiad yn barod ar gyfer mis Ionawr er mwyn adrodd yn ffurfiol ar y dadansoddiad a nodwyd ar effaith y gyllideb dros dro. Ar ben hynny, sut y gall y Cyngor bontio'r bwlch cynyddol yn adnoddau'r Cyngor ymhellach ar gyfer 2024/25. 

 

Holodd yr Aelodau pam yr oedd y cais am ganiatâd i ymgynghori wedi cael ei ystyried ar ddiwedd mis Rhagfyr, a pham na cheisiwyd caniatâd yn gynharach fel y gallai'r ymgynghoriad ddechrau'n gynt? Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi bod yn gweithio i sicrhau bod yr holl gynigion cynhyrchu incwm a gwariant yn cael eu harchwilio'n llawn cyn i'r ymgynghoriad ddechrau.

 

Mae swyddogion wedi ymgynghori ar rai cynigion penodol yn yr adroddiad. Amlinellodd swyddogion pa eitemau sydd wedi bod yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus. Lle'r oedd yn bosib nodi pethau ar gyfer ymgynghoriad yn gynharach, mae hyn wedi'i wneud.

 

Holodd yr Aelodau am eitemau yn y gyllideb sy'n awgrymu talu gwariant craidd drwy grantiau, ac a fyddai hyn yn cael effaith ganlyniadol wrth ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Dywedodd swyddogion fod hyn ar gyfer ystyriaeth unigol gan gyfarwyddiaethau a'i fod yn ymwneud â sicrhau bod y grant yn cael ei ddefnyddio i'r eithaf o fewn y gyllideb.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon parhaus am chwyddiant a'r dyfarniad cyflog presennol ac ymholwyd a oedd y ddarpariaeth o 4% yn y gyllideb yn ddigonol. Dywedodd swyddogion fod y 4% wedi cael ei feincnodi gyda'r 21 awdurdod lleol arall yng Nghymru a'i fod yn gyson â rhagolygon eraill. Roedd swyddogion yn hyderus y byddai hyn yn ddigon.

 

Tudalen 2 o’r adroddiad, sy'n dangos bod y gyllideb yn cefnogi mentrau polisi lleol a flaenoriaethwyd gan Glymblaid yr Enfys. Mae'r mentrau hyn yn cyfeirio at y rhai y cytunwyd arnynt o fewn y Cynllun Corfforaethol.

 

Mae tudalen 4 yn amlinellu bwlch o £3.5m. Dywedodd swyddogion mai dyma'r £3.5m a ddefnyddiwyd i gydbwyso cyllideb 23/24, y mae angen ei gynnwys yn awr o fewn y gyllideb eleni.

 

Mae tudalen 11 yn cyfeirio at gyflawni polisïau Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru. Holodd yr Aelodau a oes unrhyw bolisïau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, y gwyddom nad ydynt yn mynd i gael eu hariannu. Dywedodd swyddogion nad oedden nhw'n ymwybodol o unrhyw beth ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nodwyd nad yw'r setliad cyffredinol yn ariannu'r hyn sydd ei angen arnom ar hyn o bryd.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y cynnydd o 7.5% mewn derbyniadau incwm yn tybio bod cynnydd o 7.5% ym mhob llinell incwm, ond y cyfarwyddiaethau unigol fydd yn penderfynu sut y maent yn cyflawni hyn. Er enghraifft, gallai fod yn gymysgedd o daliadau cynyddol a chynnydd mewn cyfaint.

 

Holodd yr Aelodau, yn seiliedig ar y newid yn y grant refeniw a nodwyd gan Lywodraeth Cymru sef 0.3%, sut effaith byddai hyn yn ei chael ar y bwlch a grëwyd ac a oedd unrhyw syniad o ran pa gostau y byddai angen eu codi ar gyfer treth y cyngor er mwyn cau'r bwlch hwnnw. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r gostyngiad yn cyflwyno bwlch o £870,000 yn ychwanegol, yn seiliedig ar y model a gyflwynwyd.

 

Holodd yr Aelodau faint o'r gyllideb refeniw sy'n gyllideb wrth gefn. Amlinellodd swyddogion y gronfa wrth gefn mewn perthynas â'r dyfarniad cyflog a'r gyllideb ynni-effeithlon. Fodd bynnag, nodwyd bod cronfa wrth gefn gyffredinol o £700,000.

 

Holodd yr Aelodau am y swm a oedd ar gael mewn cronfeydd wrth gefn cyffredinol a’r swm a argymhellir. Nodwyd y gallai fod oddeutu £1m ond oherwydd y gorwariant a ragwelir ar gyfer y flwyddyn ar hyn o bryd, dywedodd swyddogion y byddai'n annhebygol y byddai unrhyw arian wrth gefn yn y cronfeydd wrth gefn.

 

Nododd yr Aelodau fod amcan eang wedi'i nodi i leihau canolfannau dinesig o dair i ddwy. Gellid gwneud arbediad mawr drwy leihau costau ynni. Dywedodd swyddogion mai dyma oedd y nod o hyd a'r bwriad yw y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd gydag opsiynau i Aelodau eu hystyried.

 

 

Mewn perthynas ag Env 12/13 mae'n nodi cael gwared ar gytundeb mynediad a hawliau cyhoeddus a chael gwared ar y cytundeb trwydded mewn perthynas â chamlas Castell-nedd. Holodd yr Aelodau beth oedd ystyr hyn. Dywedodd swyddogion fod cytundeb trwydded ar waith ar hyn o bryd gyda pherchennog y gamlas i alluogi defnydd o ran o'r gamlas i'r gogledd o Resolfen at ddibenion hamdden, a hefyd gytundeb mynediad cyhoeddus ar ben deheuol y gamlas sy'n mynd drwy Lansawel i alluogi mynediad i'r llwybr halio. Cost y ddwy drwydded yw £135,000 y flwyddyn. Cadarnhaodd swyddogion fod gan CNPT hawliau tramwy helaeth ar hyd y llwybr halio, fodd bynnag mae bylchau. Bydd angen i swyddogion CNPT benderfynu a allant ddangos yn y bwlch fod dadl hawl tramwy i'w chyflwyno i'r perchennog i sicrhau'r statws hwnnw, neu a allai CNPT gael cytundeb mynediad cyhoeddus yn unig. Felly, yn hytrach na thalu perchennog y gamlas i gynnal yr ardal, caiff hyn ei ymgorffori fel rhan o amserlen cynnal a chadw CNPT.

 

Awgrymodd yr Aelodau fod perygl y gallai hawl mynediad cyhoeddus gael ei golli ar hyd y llwybr teithio llesol a sefydlwyd yn Llansawel. Dywedodd swyddogion fod nifer o lwybrau a chanddynt hawliau gweithredol caniataol. Bydd swyddogion yn archwilio pob opsiwn i geisio sicrhau bod y llwybrau hynny'n cael eu cynnal.

 

O ran goleuadau stryd, cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai hwn yn ymgynghoriad ar wahân i'r ymgynghoriad ar y gyllideb.

 

Amlinellodd yr Aelodau eu pryderon o ran Hamdden Celtic a'r oedi o ran dod â'r gwasanaeth yn fewnol. Ymhellach, nid oes cynllun busnes wedi cael ei archwilio na'i gyflwyno eto mewn perthynas â'r eitem hon. Amlinellodd yr Arweinydd y camau a gymerwyd i drafod y penderfyniad i ohirio'r dyddiad ar gyfer dod â'r gwasanaeth yn ôl yn fewnol â staff. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet fod achos busnes wedi'i lunio, fodd bynnag, oherwydd mae nifer o eitemau wedi newid, a oedd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor, er enghraifft costau ynni cynyddol, nid oedd yn gallu bwrw ymlaen.

 

Cyfeiriodd swyddogion at dudalen 26 o'r adroddiad, L4 yn benodol, sy'n nodi cynnig i leihau costau rhedeg Hamdden Celtic i gyfanswm o £660,000 dros oes y cynllun ariannol tymor canolig. O ran costau sefydlog, cadarnhaodd swyddogion y bydd costau ychwanegol o £1.3m yn berthnasol pan fydd y gwasanaeth yn cael ei fewnoli, mewn perthynas â chyfraddau a chostau staff.

 

Cadarnhaodd swyddogion y gweithiwyd ar y cynllun busnes y llynedd, pan nododd yr amserlen y byddai Hamdden Celtic yn cael ei fewnoli ar 1 Ebrill 2023. Pan gwnaed y penderfyniad i oedi'r gwaith o fewnoli’r gwasanaeth, gohiriwyd y cynllun busnes. Cadarnhawyd, pan fydd y Cyngor yn barod i fewnoli, y bydd y cynllun busnes yn cael ei gyflwyno. 

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

Cyllid Grant Trydydd Sector - Dyfarnu Grantiau ar gyfer 2024 – 2025

 

Cadarnhaodd swyddogion ers cyhoeddi'r adroddiad ei fod wedi cael ei gadarnhau bod nifer o sefydliadau wedi cyflwyno'r un ceisiadau am gyllid i sawl cronfa ariannu. Mae pot cynllun CNPT yn ddewis olaf, nid y dewis cyntaf. Dylai fod pob cais am gyllid yn cael mynediad at botiau eraill yn gyntaf. Mae angen penderfynu ar ganlyniadau ceisiadau eraill cyn ystyried y dyfarniad hwn. Dim ond dau o'r sefydliadau a restrir fydd yn cael eu hargymell ar gyfer dyfarniad.

 

Holodd yr Aelodau pam y cyflwynwyd dau opsiwn a'r cefndir ar gyfer y rhesymeg y tu ôl i hyn. Cadarnhaodd swyddogion oherwydd y sefyllfa ariannol gyffredinol fod gorymgeisio ar gyfer y gronfa. Roedd yr opsiynau'n amlinellu'r dewisiadau i Aelodau.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd argymhelliad diwygiedig y swyddog, sef 'cymeradwyo'r grant (a nodwyd yn Atodiad 1 o'r adroddiad a ddosbarthwyd) i Ganolfan Maerdy ac Ymddiriedolaeth Datblygu Ystalyfera, a nodi bod y ceisiadau ychwanegol am grantiau yn cael eu dwyn i gyfarfod o'r Cabinet yn y dyfodol ym mis Ionawr 2024 i'w penderfynu gan yr Aelodau.'

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.