Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig:
1.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i
Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio a'r Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, i
ddefnyddio'r trefniant De Minimis ddyfarnu comisiynau/contractau gwasanaethau
teithwyr yn uniongyrchol, er mwyn cynorthwyo i dendro llwybrau bysus
anfasnachol yn y Fwrdeistref Sirol o fis Ebrill 2024.
2.
Cytunir ar eithrio'r gofynion
ar gyfer cystadleuaeth a gynhwysir yn Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r
cyngor, yn unol â Rheol 5 ynddynt, ar gyfer contractau o'r fath a ddyfernir
drwy De Minimis yn unol â Rheoliadau 2002.
3.
Cytunir i'r Pennaeth
Peirianneg a Thrafnidiaeth ddyfarnu contractau De Minimis yn uniongyrchol i
weithredwyr bysiau er mwyn diogelu teithiau sy'n angenrheidiol yn gymdeithasol,
yn ôl yr hyn a phryd y mae cyllid yn caniatáu ac yn unol â gofynion Rheoliadau
2002.
Rhesymau dros y Penderfyniadau:
1.
Sicrhau bod gan y cyngor offer
y gall eu defnyddio sy'n caniatáu iddo arbed cynifer o wasanaethau bysus lleol
â phosib.
2.
Caniatáu i'r cyngor ymateb yn
gyflym i ddisodli'r gwasanaethau bysus lleol presennol sy'n cael eu tynnu'n ôl
os yw'r cyllid yn caniatáu.
3.
Cynorthwyo gyda'r broses
dendro drwy leihau nifer y tendrau/llwybrau y mae angen eu rheoli.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau.