Agenda item

Newid y Ddarpariaeth Weithredol ar gyfer y Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddir awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet perthnasol a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu perthnasol, ddyfarnu contractau rheoli'r cerbydlu a thelemateg yn uniongyrchol drwy fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau caffael brys drwy fframwaith Gwasanaeth Masnachol y Goron i sicrhau systemau newydd addas a fydd yn cynnal cyflwyno gwasanaethau rheng flaen a'r cerbydlu, a hefyd i roi ateb di-oed i'r cyngor ynghylch darparu system gwmwl gyfoes gyda nodweddion ychwanegol wrth leddfu'r pwysau ar adnoddau mewnol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.