Cofnodion:
Penderfyniadau:
Ar ôl rhoi
sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:
1.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â'r
Arweinydd a'r Aelod Cabinet perthnasol) gytuno i unrhyw amrywiadau y gall fod
eu hangen i'r Achos Busnes Amlinellol (ABA) a nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad
Preifat a ddosbarthwyd, ac i gymeradwyo ei gyflwyno i Lywodraethau'r DU a
Chymru;
2.
Yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y bydd
cyfraddau annomestig yn cael eu cadw'n briodol, rhoddir awdurdod dirprwyedig
i'r Prif Weithredwr (mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd a'r Aelod Cabinet
perthnasol) gytuno i ddiwygiadau terfynol i'r Achos Busnes Amlinellol yn dilyn
adborth gan y ddwy lywodraeth er mwyn galluogi'r ddwy lywodraeth i gadarnhau eu
bod yn derbyn yr ABA;
3.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr a Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd lofnodi Llythyrau o Fwriad mewn perthynas â
Chytundebau Cyflawni Safle Treth ar ran y Porthladd Rhydd Celtaidd;
4.
Rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Prif Weithredwr ymrwymo i Femorandwm
Cyd-ddealltwriaeth newydd neu unrhyw gytundebau ategol sy'n angenrheidiol i
barhau â'r rhaglen o gamau nesaf a nodwyd yn yr adroddiad preifat a
ddosbarthwyd, gan nodi y bydd adroddiadau pellach yn cael eu dwyn yn ôl
i'r Aelodau ar y pwyntiau y cyfeirir
atynt o hyn allan.
Rheswm dros
y penderfyniadau:
Bydd statws
Porthladd Rhydd yn gweithredu fel catalydd ar gyfer twf economaidd sylweddol yn
yr ardal a'r rhanbarth ehangach sy'n gysylltiedig â'r sector ffermydd gwynt ar
y môr sy'n dod i'r amlwg a'r agenda ynni adnewyddadwy ehangach. Bydd Porthladd
Rhydd Celtaidd hefyd yn cefnogi gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant, tai a
thrafnidiaeth yn lleol ac yn rhanbarthol gan helpu i gyrraedd targedau sero net
o ran carbon. Bydd twf economaidd gwyrdd yn helpu i fynd i'r afael â materion
strwythurol tlodi ac amddifadedd yn yr economi leol a rhanbarthol gan ysgogi'r
gadwyn gyflenwi leol a chynyddu sgiliau a chymwysterau'r boblogaeth breswyl.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Mae'r
penderfyniadau i'w rhoi ar waith ar unwaith, yn dilyn cytundeb Cadeirydd y
Cabinet Craffu.
Ymgynghoriad:
Datblygwyd y
cais Porthladd Rhydd gan y ddau awdurdod lleol, ABP a MHPA, gan weithio mewn
partneriaeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad ehangach hefyd gydag ystod eang o
sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat gan gynnwys rhwydweithiau busnes o
fewn ardal arfaethedig y Porthladd Rhydd.