Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bod y ceisiadau am
ddyfarniadau, fel y nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad preifat a gylchredwyd, a
wnaed o Gronfa Harold a Joyce Charles, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/2024
i geisiadau cymwys a dderbyniwyd ar neu cyn y dyddiad cau, yn cael eu cymeradwyo.
2.
Bod y dyraniad ariannol o
£3,000.00 ar gyfer 2 fyfyriwr amser llawn (y manylir arno yn Atodiad B i'r adroddiad
preifat a gylchredwyd), yn cael ei gymeradwyo
3.
Bod taliadau'n parhau i'r
ymgeiswyr hynny y mae cefnogaeth barhaus gan Gronfa Harold a Joyce Charles ar
eu cyfer eisoes wedi'i chymeradwyo.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Darparu cefnogaeth ariannol briodol i fyfyrwyr a
fyddai fel arall yn dioddef caledi.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau.