Agenda item

Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Rownd 2 y Rhaglen Lluosi

Cofnodion:

Cywirodd Swyddogion gamgymeriad bach mewn perthynas â manylion y cyllid yn Atodiad 1 i'r adroddiad preifat a gylchredwyd, ynghylch 'Technocamps' Prifysgol Abertawe: Prosiect Llwybrau Sgiliau Digidol. Amlygwyd cywiriad hefyd mewn perthynas â'r pum cais Lluosi a dderbyniwyd yn dilyn yr alwad agored.

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r sgrinio Asesiad Effaith Integredig: 

 

1.           bod y prosiectau a restrir yn Atodiad 1 i'r adroddiad preifat a gylchredwyd a gyflwynwyd o dan Alwad Agored Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Castell-nedd Port Talbot, yn cael eu CYMERADWYO yn amodol ar gymeradwyaeth yn cael ei rhoi gan y Pennaeth Eiddo ac Adfywio i'r asesiadau Rheoli Cymhorthdal.

 

2.           NAD yw'r prosiectau a restrir yn Atodiad 2 i'r adroddiad preifat, a gylchredwyd a gyflwynwyd o dan Alwad Agored Sgiliau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Castell-nedd Port Talbot, yn cael eu cymeradwyo.

 

3.           Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid, yr Arweinydd a'r Aelod/au Cabinet perthnasol  i gymeradwyo prosiectau a gyflwynwyd o dan Alwad Agored Rownd 2 Rhaglen Lluosi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Castell-nedd Port Talbot.

 

4.           Bod proses newid prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn cael ei chymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith a dweud wrth ymgeiswyr Sgiliau a Lluosi am y penderfyniad ariannu galwad agored.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.