Cofnodion:
Penderfyniadau:
1.
Bod y ceisiadau am
ddyfarniadau, fel y nodwyd yn Atodiadau B ac C i'r adroddiad preifat a
gylchredwyd a wnaed o Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Morgannwg ar gyfer
y flwyddyn academaidd 2023/2024, i geisiadau cymwys a dderbyniwyd ar neu cyn y
dyddiad cau, yn cael eu cymeradwyo.
2.
Bod dyrannu arian hyd at uchafswm
o £1,832.00 ar gyfer 5 myfyriwr amser llawn (fel y nodwyd yn Atodiad B) ac
£840.00 ar gyfer 1 myfyriwr rhan-amser (fel y nodwyd yn Atodiad C) yn cael ei
gymeradwyo.
3.
Bod y taliadau i'r ymgeiswyr
hynny y cymeradwywyd cefnogaeth barhaus gan Gronfa Ymddiriedolaeth Addysg
Bellach Morgannwg ar eu cyfer eisoes, yn parhau.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Darparu cefnogaeth ariannol briodol i fyfyrwyr a
fyddai fel arall yn dioddef caledi.
Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:
Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod galw i mewn o dridiau.