Agenda item

Cynnig i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Cofnodion:

Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y cynnig i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen mewn perthynas â diweddaru Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth y cyngor. Os caiff ei gymeradwyo, byddai'r grŵp Gorchwyl a Gorffen Amrywiaeth mewn Democratiaeth a'r grŵp Gorchwyl a Gorffen Aflonyddu, Cam-drin a Bygythiadau yn rhedeg ar yr un pryd.

 

Gofynnodd yr aelodau a fyddai modd gwahodd sefydliadau allanol i gymryd rhan o dan gylch gwaith y grŵp Gorchwyl a Gorffen.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y gellid gwahodd sefydliadau allanol o dan gylch gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen i sicrhau bod y grŵp mor eang â phosib, a mater i aelodau Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd penderfynu pwy y gallent ystyried clywed ganddo.

 

Penderfynwyd: Argymhellir bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn cymeradwyo sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i ganolbwyntio ar ddatblygu cam nesaf Amrywiaeth mewn Democratiaeth ar gyfer y cyngor, gan ystyried datblygiadau cenedlaethol a blaenoriaethau lleol.

 

Dogfennau ategol: