Cofnodion:
Rhoddodd Pennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd drosolwg o'r adroddiad yn y pecyn
agenda ac amlinellodd y cynnig i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen.
Croesawodd yr aelodau'r
syniad o sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen a dywedasant fod newid wedi bod o
ran gweithredoedd ac agweddau pobl ers y pandemig, gyda lefelau uwch o gam-drin
ar-lein. Nododd yr Aelodau y byddai'n ddefnyddiol edrych ar wybodaeth a all fod
ar gael ym maes addysg, a nodi pam y bu newid mewn diwylliant ac unrhyw
faterion sylfaenol.
Penderfynwyd: Argymhellir bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd
yn:
Cymeradwyo sefydlu Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd i ganolbwyntio ar fynd
i'r afael ag aflonyddu a bygythiadau i Gynghorwyr, gan hyrwyddo diogelwch
cynghorwyr ar lefel leol.
Dogfennau ategol: