Agenda item

Adolygiadau Datblygiad Personol Aelodau

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o'r adroddiad yn y pecyn agenda ac amlinellodd y polisi cyfredol mewn perthynas â phroses Adolygu Datblygiad Blynyddol yr Aelodau.

 

Penderfynwyd: Argymhellir, ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r ffaith nad oes angen asesiad effaith integredig, fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn:

 

- Nodi'r Cynllun Adolygu Datblygiad Personol Aelodau

 

- Cymeradwyo y bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfathrebu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a grwpiau gwleidyddol i archwilio carfan o aelodau presennol i ymgymryd â'r hyfforddiant i gynnal Adolygiadau Datblygiad Personol Aelodau.

 

- Cymeradwyo y bydd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfathrebu â'r holl Aelodau drwy e-bost, i'w hatgoffa o'r cynllun a'u gwahodd i gwblhau Adolygiad Datblygiad Personol os dymunant.

 

Dogfennau ategol: