Agenda item

Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o'r adroddiad yn y pecyn agenda ac atgoffodd yr aelodau fod cymorth ar gael i unrhyw aelod a oedd yn dymuno llunio adroddiad blynyddol.

 

Gofynnodd yr aelodau faint o adroddiadau blynyddol sydd wedi'u cynhyrchu ers yr etholiad diwethaf.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd mai ychydig iawn o adroddiadau blynyddol oedd wedi eu cynhyrchu a bod pob adroddiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar wefan y cyngor. Nodwyd y gall technoleg gyfredol ganiatáu i adborth aelodau gael ei lunio mewn gwahanol fformatau eraill. 

 

 

Penderfynwyd: Argymhellir, ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r ffaith nad oes angen asesiad effaith integredig, fod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn nodi Cynllun Adroddiad Blynyddol yr aelodau a bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfathrebu â'r holl aelodau drwy e-bost, i'w hatgoffa o'r cynllun a’u gwahodd i gwblhau adroddiad blynyddol os dymunant.

 

Dogfennau ategol: