Agenda item

Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2024

Cofnodion:

Darparodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd drosolwg o'r adroddiad yn y pecyn agenda. Byddai'r cynigion gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, os cânt eu gweithredu, yn effeithio ar gydnabyddiaeth ariannol Aelodau yn y flwyddyn ddinesig 2024/2025.

 

Penderfynwyd: Bod y Pwyllgor yn ystyried y penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2024/25 ac yn gwneud sylwadau arnynt.

 

Penderfynwyd: Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ymateb ar ran Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd gan adlewyrchu'r penderfyniad a'r sylwadau a wnaed yn y cyfarfod i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Penderfynwyd: Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cyhoeddi Cwestiwn 4 o'r ddogfen ymgynghori i'r holl aelodau etholedig a’r aelodau cyfetholedig er mwyn iddynt ymateb iddo yn unigol.

 

Dogfennau ategol: