Agenda item

Craffu Cyn Penderfyniad - Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes drosolwg o'r adroddiad, a oedd yn ceisio caniatâd aelodau i fynd at Lywodraeth Cymru i gael cymeradwyaeth i ddiwygio Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) y cyngor. Nodwyd bod yr holl gynlluniau band B a rhai cynlluniau band C yn yr adroddiad wedi cael eu cytuno gan aelodau'n flaenorol ac nid oedd angen trafodaeth bellach ar hyn o bryd.

 

Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar yr amser y mae ei angen i ddarllen papurau; mynegwyd pryder ynghylch sut y cafodd y broses ei datblygu ac nad oedd yr wybodaeth honno ar gael am ddim. Gofynnodd yr Aelodau am gyfarfodydd ac ymweliadau safle i edrych yn fanwl ar unrhyw anghenion a materion wrth i'r cynigion symud ymlaen. Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch y ffaith ei bod yn angenrheidiol gofyn am gyfarfod ar y cyd a gofyn am eglurhad o ran yr angen am breifatrwydd ynghylch yr adroddiad atodol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod yr adroddiad atodol wedi'i eithrio o dan baragraff 14, gan fod cyfeiriad at faterion ariannol a busnes y cyngor gyda gwybodaeth fasnachol sylweddol ynghylch perchnogaeth tir fel rhan o'r astudiaeth dichonoldeb. Gallai'r wybodaeth hon gael effaith ar unrhyw broses dendro gystadleuol yn y dyfodol. Bydd yr aelodau'n gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid ystyried y mater yn breifat ond cyngor y swyddog yw ei fod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer trafodaeth breifat heddiw.

 

Holodd yr aelodau a oedd cynigion i edrych ar anghenion disgyblion am Ysgol yr 21ain Ganrif ar gyfer Llan-giwg a'r Allt-wen.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes y bydd pob ysgol yn cael ei hadolygu o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif dros amser. Bydd Syrfewyr Adeiladu'n blaenoriaethu anghenion a bydd adnoddau'n cael eu dyrannu yn nhrefn blaenoriaeth.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw ddogfennau neu astudiaethau dichonoldeb perthnasol eraill sy'n ymwneud â'r cynigion.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes nad oedd unrhyw astudiaethau dichonoldeb ychwanegol.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnig ar gyfer ysgol newydd yng Nghoed Darcy a holwyd a fyddai'r ysgol arfaethedig hon yn cael ei dileu o'r cynllun. Nodwyd bod yr adroddiad yn nodi ei fod yn amheus y byddai Llywodraeth Cymru'n caniatáu i'r prosiect yng Nghoed Darcy gael ei drosglwyddo.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes mai'r unig welliant a awgrymwyd ar gyfer band B a band C oedd ar gyfer y ddwy ysgol arbennig a Godre'r-graig ac nad oedd awgrym i gael gwared ar yr ysgol newydd yng Nghoed Darcy o fand B.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y datganiad yn yr Asesiad Effaith Integredig (AEI) a oedd yn nodi; mae'r cynlluniau dan sylw yn ymwneud ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn gyffredinol, ond bydd y cyfleusterau gwell yn effeithio ar ddisgyblion Cymraeg eu hiaith sy'n mynychu'r ddarpariaeth. Gofynnodd yr aelodau pa gynlluniau oedd ar waith i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid fod plant Cymraeg eu hiaith sy'n mynychu Ysgol Maes y Coed neu Ysgol Hendrefelin yn cael eu cefnogi gan athrawon a chynorthwywyr addysgu Cymraeg ar hyn o bryd; pe bai'r cynigion yn cael eu cymeradwyo byddai'r trefniant hwn yn parhau. Ailadroddodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes nad oedd yr adroddiad a fyddai'n cael ei ystyried heddiw yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg, ond gellid darparu adroddiad ar addysg cyfrwng Cymraeg os byddai aelodau'n gofyn am hynny.

 

Holodd yr aelodau a ellid ôl-osod yr adeilad presennol yn Llangatwg er mwyn gwarchod adeilad Fictoraidd ac i fod yn fwy ystyriol o'r amgylchedd.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes nad oedd yr ysgol hon yn berthnasol i'r adroddiad dan sylw ond y gallai gadarnhau y byddai pob ffactor yn cael ei ystyried wrth ddatblygu achosion busnes amlinellol.

 

Cwestiynodd yr aelodau pam y cafodd yr holl ysgolion yn y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion eu cynnwys yn yr adroddiad.

Cadarnhaodd Gyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod yr ysgolion ym mand C wedi'u cynnwys yn yr adroddiad at ddibenion cyflawnrwydd ac fel atgof o'r hyn a gytunwyd eisoes. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod model ariannu'r trysorlys a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod unrhyw geisiadau a wneir am gyllid cyfalaf yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y cynlluniau ar gyfer ysgol Gymraeg newydd yn nwyrain y sir gan holi a sefydlwyd angen ar gyfer ysgol o'r maint hwn ac a ystyriwyd cynyddu capasiti yn Ysgol Gymraeg Rhosafan.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes nad oedd y drafodaeth hon yn berthnasol i'r cyfarfod heddiw, a chynhigiodd gyflwyno adroddiad i'r pwyllgor ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg pe bai'r aelodau'n gofyn am hynny.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch cynlluniau i adnewyddu'r safle yn Felindre oherwydd oedran a chyflwr yr adeilad a chwestiynwyd a fyddai'n well gwario'r gyllideb ar adeilad modern, addas i'r diben, gwyrddach. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y ddarpariaeth Dysgu Oedolion bresennol yn Nhir Morfa. Mynegodd yr Aelodau bryder mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Ysgol Hendrefelin oherwydd anghenion amrywiol y disgyblion.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg y bydd yr achosion busnes amlinellol yn edrych ar fanylion pellach ar gyfer pob cynnig. Mae'r gwaith adnewyddu sylweddol yn Felindre wedi'i gyfrifo ar gyfer gwaith adnewyddu sylweddol gan ddefnyddio fformiwla Llywodraeth Cymru. Gall cynigion newid unwaith y bydd yr achos busnes amlinellol yn cael ei ddatblygu. Mae ailddatblygu Dysgu Oedolion yn rhan o ymgyrch sgiliau ehangach ar draws y sir.  Mewn perthynas â phryderon ynghylch Ysgol Hendrefelin mae manteision ac anfanteision a bydd y rhain yn cael eu harchwilio'n fanylach.

 

Dywedodd yr Aelodau nad oes sicrwydd y bydd Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig ac roedd yn bwysig rheoli disgwyliadau cymunedol ynghylch yr amser sy'n gysylltiedig â datblygu cynlluniau.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Addysg fod y broses yn un hir a nododd fod hefyd angen cwblhau Rhaglen yr 21ain Ganrif sydd eisoes wedi'i chytuno gan aelodau.

 

Holodd yr Aelodau ynghylch cywirdeb yr AEI mewn perthynas â'r effaith ar y cymoedd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg mai pwrpas yr adroddiad yw gofyn am ganiatâd gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio'r RhAS; Mae'r AEI wedi cael ei ysgrifennu a'i lunio o amgylch y cynnig. 

 

 

 

Mynediad at Gyfarfodydd 

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Penderfynwyd: atal mynediad i gyfarfodydd dros dro.

 

 

Yn dilyn craffu, cefnogodd yr aelodau'r argymhellion diwygiedig i'r Cabinet.