Cynnig i Ddiwygio Cymunedau
Cynaliadwy’r Cyngor ar gyfer Prosiectau Cyllido Cyfalaf Dysgu, ac Adolygu’r
Proffil Gwariant Cyfalaf.
Cofnodion:
Penderfyniad:
Bod caniatâd yn cael ei roi i swyddogion geisio
cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru i wneud cais am amrywiad o Raglen Amlinellol
Strategol (RhAS) Bandiau'r cyngor i gael gwared ar gynllun Cwm Tawe a chynnwys
adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Godre'r-graig, ehangiad i ysgol arbennig
Maes y Coed ac adnewyddu hen adeilad y Gwasanaeth Adnoddau Addysg a Dysgu ym
Mhort Talbot yn llwyr a bod RhAS Band C y cyngor yn cael ei diwygio i gynnwys
ysgol arbennig newydd fel y nodwyd yn yr adroddiad a gylchredwyd.
Rheswm dros y penderfyniad:
Caniatáu i swyddogion wneud cynnydd wrth baratoi'r achosion
busnes os bydd Llywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r diwygiadau.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.
Ymgynghoriad:
Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar y cam hwn. Fodd bynnag, os sicrheir cymeradwyaeth yna wrth i gynlluniau gael eu datblygu, gall fod angen mynd trwy brosesau strategol a fyddai'n cynnwys ymgynghori'n llawn â rhanddeiliaid
Dogfennau ategol: