Agenda item

Buddsoddiad Strategol y Gwasanaethau i Oedolion

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cabinet am eiriad diweddaredig i'r argymhelliad, y cytunwyd arno, ac sy'n ymddangos fel y Penderfyniad isod:

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyir y defnydd o gronfeydd wrth gefn i ariannu'r newid strategol sydd ei angen yn y Gwasanaethau i Oedolion, fel y nodwyd yn yr adroddiad Preifat a gylchredwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

1.           Ystyried yr adnoddau gofal cymdeithasol sydd ar gael wrth gynnal asesiad neu ailasesiad o anghenion unigolion.

 

2.           Sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion o ansawdd da ar gael i ddiwallu anghenion dinasyddion mwyaf agored i niwed Castell-nedd Port Talbot

 

3.           Cyfrannu tuag at yr arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y cyngor.

 

4.           Cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru i ail-gydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol drwy symud gwasanaethau i ffwrdd o sefydliadau er elw.

 

Ymgynghoriad:

 

Lle bo'n briodol, cynhelir ymarferion ymgynghori unigol ar gyfer y datblygiadau a amlinellir yn yr adroddiad preifat a gylchredwyd dros gyfnod o 90 niwrnod, er mwyn ymgysylltu'n gadarnhaol â rhanddeiliaid a cheisio'u barn.