Cofnodion:
Dywedwyd wrth y Cabinet am eiriad diweddaredig i'r argymhelliad,
y cytunwyd arno, ac sy'n ymddangos fel y Penderfyniad isod:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
integredig, cymeradwyir y defnydd o gronfeydd wrth gefn i ariannu'r newid
strategol sydd ei angen yn y Gwasanaethau digartrefedd a thai strategol, fel y
nodwyd yn yr adroddiad Preifat a gylchredwyd.
Rheswm dros y Penderfyniad
1.
Sefydlogi cyllid y cyngor o ran y lefelau cyfredol a rhagamcanol
o orwariant dilywodraeth sy'n gysylltiedig â'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod
yn ddigartref.
2.
Sicrhau bod gwell ymatebion i'r rheini sydd mewn perygl o
ddigartrefedd neu sy'n ddigartref.
3.
Helpu i sicrhau bod tai cynaliadwy yng Nghastell-nedd
Port Talbot yn unol ag anghenion y boblogaeth.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau.