Agenda item

Diweddariad Seilwaith Digidol

Cofnodion:

Rhoddodd Dija Oliver, Rheolwr Prosiect Rhaglen Isadeiledd Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyflwyniad i'r aelodau ar y Rhaglen Isadeiledd Digidol fel y'i cynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddog am y cyflwyniad a gwnaethant sylw bod hwn yn brosiect pwysig sy'n cael ei gynnal drwy'r Fargen Ddinesig oherwydd nifer y preswylwyr â chysylltedd gwael mewn rhai rhannau o'r rhanbarth. Nodwyd bod cysylltedd da yn hanfodol bwysig i fusnesau a phobl sy'n gweithio gartref.

 

Dywedodd yr aelodau nad oedd gan rai ardaloedd yn etholaeth Gŵyr unrhyw gysylltiad â'r rhyngrwyd ac mae pryder y bydd rhai preswylwyr yn cael eu heithrio'n ddigidol. Mae angen cyfathrebu da yn yr ardal wledig i hybu'r niferoedd sy'n manteisio arno. Cadarnhaodd swyddogion fod tîm newydd yn ei le yn Abertawe sydd wrthi'n dadansoddi data i ddeall nifer yr eiddo yr effeithir arnynt ym mhob ward. Bydd y tîm yn cynllunio i gwrdd ag aelodau i nodi sut y gellir cyfathrebu'r wybodaeth yn fwyaf effeithiol ag etholwyr. Bydd ymgyrchoedd cyfathrebu yn cael eu cynnal mewn perthynas â rhai o'r cynlluniau. Un cynllun sy'n cefnogi pobl ar unwaith yw Cynllun Allwedd Band Eang Cymru, lle gellir defnyddio technoleg amgen. Mae llawer o breswylwyr Sir Gaerfyrddin yn symud i Star Link ond mae'r gost yn afresymol ac mae angen i'r gwasanaeth fod yn fwy cystadleuol. Nodwyd bod cyfathrebu'n bwysig, gan nad yw llawer o bobl yn deall beth sydd ar gael a phryd y mae'n dod, ond mae angen gosod disgwyliadau mewn perthynas â phryd y bydd ffeibr ar gael.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn hapus bod cyfanswm Virgin Media wedi'i eithrio o'r ffigurau gan nad oedd yn deg. Gofynnodd y Cadeirydd, ar wahân i roi cyngor, beth sy'n cael ei wneud yn gorfforol i fynd i'r afael â'r materion, gan fod Cyflymu Cymru ac Allwedd Band Eang Cymru yn gynlluniau Llywodraeth Cymru ac nid ydynt yn atebion i'r Fargen Ddinesig. Nododd y Cadeirydd y dylai sefydliadau'r sector cyhoeddus fod yn edrych i fynd i'r afael â materion drwy atebion Cymru/y DU, yn hytrach na chwmnïau preifat fel Star Link, oherwydd y ddadl ynghylch penderfyniad Elon Musk i ddiffodd y gwasanaeth yn Wcráin, ac roedd am wybod pa atebion ffisegol sy'n dod yn sgil y Fargen Ddinesig.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod buddsoddiad cyfalaf neu refeniw'n cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael â phroblemau, bydd y rhwydwaith ffeibr tywyll i 33 o safleoedd strategol, yn ardal Llanelli/Abertawe/ Castell-nedd i ddechrau, yn dod â ffeibr gradd busnes ychwanegol i'r ardaloedd hynny. Bydd hyn hefyd yn darparu ôl-drosglwyddiadau data ar gyfer ffonau symudol. Bydd gorchymyn Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) yn dod â ffeibr ychwanegol i 401 o adeiladau. Dywedodd swyddogion eu bod hefyd yn edrych ar sicrhau nad ydynt yn dyblygu cyllid nac yn atal cyflwyno masnachol. Nid yw swyddogion yn gallu gwneud ymyriadau lle mae cynlluniau masnachol yn bodoli, ond mae ganddynt y data i ddeall ble y gallant ymyrryd. Mae gan swyddogion hefyd y data ynghylch lle mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn bwriadu ymyrryd ond mae'n debygol y bydd yr hyn a fydd ar ôl yn safleoedd anodd eu cyrraedd.

 

Mae angen nodi'r rhain a mynd i'r afael â hwy, mae potensial i wario cyllid y Fargen Ddinesig tuag at hyn a symud rhywfaint o ddyraniad cyllid o leoedd cysylltiedig i fynd ymhellach. Nodwyd bod cronfa gyfyngedig o bobl sy'n gallu darparu'r isadeiledd ac felly mae dadansoddi data yn hanfodol i lywio cynlluniau'r swyddogion.

Holodd yr aelodau a oedd y cynllun i wella ffeibr i gabinetau fel bod darparwyr yn gallu gwerthu gwell gwasanaethau i gwsmeriaid? Dywedodd swyddogion ei fod yn gysylltiad ffeibr i'r adeilad ac y bydd y llwybrau ffeibr yn mynd drwy'r parthau diwydiannol allweddol yn y rhwydwaith ffeibr tywyll, y gallent wedyn eu cysylltu gan fod y Fargen Ddinesig wedi talu am ffeibr hwnnw drwy asedau a safleoedd sector cyhoeddus, ac yna y gall sefydliadau masnachol adeiladu ar hynny.

 

Ar y rhwydwaith ffeibr tywyll, byddai'n ffeibr gradd busnes, ond bydd yr ôl-drosglwyddiad data yn cefnogi preswylwyr. Bydd y Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus o fudd i breswylwyr. Mae gwariant cyfalaf y Fargen Ddinesig o dan ardaloedd gwledig yn targedu’r hyn a elwir ynadeiladau gwyn’, sef adeiladau nad ydynt yn gallu trosglwyddo data ar gyfradd gigadid neu lai na 10MB. Yn bennaf, mae swyddogion yn edrych ar bobl na allant gael cyflymder hyd at 30MB.

 

Holodd y Cadeirydd faint fydd wedi newid oherwydd buddsoddiad uniongyrchol ar ôl i'r Fargen Ddinesig ddod i ben. Cadarnhaodd swyddogion mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU a gweithredwyr ffonau symudol oedd cysylltedd symudol a nodwyd ei bod yn anodd mesur ar hyn o bryd pa newidiadau fyddai ar waith wrth gwblhau'r Fargen Ddinesig, ond y nod yw sicrhau bod cynifer o eiddo â phosib gyda llai na 30MB. Mae'r buddsoddiad o £12,000,000 mewn mastiau drwy Vodafone ond mae'r mastiau yn rhai isadeiledd a rennir ar gyfer cyflenwyr eraill. Bydd hyn yn lleihau nifer y mastiau yng nghefn gwlad ond yn cynyddu'r mynediad i signal i bawb, yn enwedig mewn argyfyngau. Mae swyddogion yn credu bod y Fargen Ddinesig wedi dylanwadu ar benderfyniadau oherwydd bod yr adnoddau sydd ar waith yn cefnogi defnyddio isadeiledd.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Bargen Ddinesig Bae Abertawe fod y strwythur a grëwyd gan isadeiledd digidol yn rhagorol. Daw llawer o'r cyllid o'r sector preifat gyda swm bach iawn o gyllid y Fargen Ddinesig wedi'i defnyddio eisoes. Mae'r ardal hon yn cyflymu'n gyflymach nag ardaloedd eraill. Bydd y cyllid presennol sydd ar gael ochr yn ochr â chyllid y Fargen Ddinesig yn cael ei fwyafu ar draws y rhanbarth, gan ystyried unrhyw gyfleoedd cyllido yn y dyfodol hefyd. Mae ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a'r DU yn gryf, a bydd y berthynas yn parhau i gryfhau. Nododd swyddogion fod y defnydd o wasanaethau yn bwysig er mwyn cynnal cyflenwyr yn y rhanbarth.

Nodwyd yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: