Agenda item

Cynllun Gweithredu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh)

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod dyletswydd ar Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i baratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh); cam cyntaf y gwaith hwn oedd llunio Cynllun Gweithredu, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref 2023.

Atodwyd y Cynllun Gweithredu drafft fel Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac roedd Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i gyflwyno'r Cynllun Gweithredu hwn i Lywodraeth Cymru.

Cyflwynodd swyddogion y Cynllun Gweithredu drafft i'r Pwyllgor, a thynnwyd sylw at bwyntiau allweddol o ran nod y prosiect, y pecynnau gwaith y mae eu hangen er mwyn cwblhau datblygiad y CTRh, y risgiau a nodwyd a'r amserlen ar gyfer cyflawni.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am gyd-destun polisi'r CTRh, a chawsant wybod am bwysigrwydd sicrhau bod y CTRh yn adlewyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (Llwybr Newydd); a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â strategaethau a blaenoriaethau Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol.

Esboniwyd bod dwy brif elfen i baratoi'r CTRh; Datblygu'r ddadl o blaid newid, a datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Rhoddodd swyddogion drosolwg i'r Pwyllgor o rywfaint o'r gwaith y mae angen ei wneud, er mwyn symud ymlaen gyda'r ffrydiau gwaith hyn.

Cyflwynwyd y risgiau lefel uchel sy'n gysylltiedig â chyflawni Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru i'r Pwyllgor:

·        Cytundeb gwleidyddol ar bolisïau a chanlyniadau lefel uchel – er bod y CTRh yn Gynllun Rhanbarthol, roedd angen iddo hefyd gyd-fynd â'r Awdurdodau Lleol unigol (nid cytundeb y cynllun yn unig, ond yr amserlenni ar gyfer y cymeradwyaethau drwy'r Awdurdodau Lleol unigol);

·        Byddai cytundeb rhanbarthol ar restr gynlluniau Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol (CCTRh) sydd wedi'u blaenoriaethu – er mwyn cynhyrchu'r rhestr hon, byddai angen i Swyddogion gael syniad o lefel y cyllid a fydd ar gael i gyflawni'r cynlluniau, fodd bynnag nid oedd hyn yn hysbys o hyd;

·        Amserlenni heriol ar gyfer cyflwyno a mabwysiadu'r CTRh - gosodwyd y dyddiad cau penodol cyntaf ar gyfer cyflwyno CTRh terfynol (29 Mawrth 2025) beth amser yn ôl, ac ers hynny bu oedi yn gysylltiedig â'r ffrwd waith hon, megis yr oedi wrth i Lywodraeth Cymru ddarparu ei harweiniad. Fodd bynnag, nid oedd y dyddiad cau penodol wedi'i ddiwygio a nodwyd ei fod yn uchelgeisiol iawn o ran cyflawni darn ystyrlon o waith;

·        Adnoddau sydd ar gael o fewn Awdurdodau Lleol i ddarparu'r CTRh, a nifer yr astudiaethau arbenigol i'w cyflawni wrth ddatblygu'r CTRh a'r diffyg cyllid i'w cyflawni – roedd adnoddau cyfyngedig ym mhob un o'r Awdurdodau Lleol, ac felly bydd angen comisiynu darnau penodol o waith. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oedd ffrydiau cyllid clir ar gael er mwyn gallu gwneud hyn.

Cyfeiriwyd at y llythyr drafft ar gyfer y Gweinidog, a atodwyd yn atodiad dau i'r adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn mynd i'r afael â'r risgiau a dynnwyd sylw atynt yn y cynllun; cynigiwyd cyflwyno'r llythyr hwn, ynghyd â'r Cynllun Gweithredu, i Lywodraeth Cymru. Rhoddodd Cadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol drosolwg o'r pryderon a godwyd yng nghyfarfod yr Is-bwyllgor, a phwysigrwydd cyflwyno'r llythyr i'r Gweinidog i godi'r pryderon hyn yn ffurfiol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch sut y byddai'r CTRh yn cyd-fynd ag anghenion y cymunedau a'r dyheadau ar draws y rhanbarth; gyda phryderon penodol yn codi ynglŷn â'r diwydiant bysus. Rhoddodd swyddogion sicrwydd y byddai pob dull o gludiant cyhoeddus, a oedd yn rhan annatod o'r rhanbarth, yn cael ei ymgorffori yn y cynlluniau; Bydd y CTRh yn helpu i sefydlu'r cyd-destun polisi, i ddod â'r gwahanol linynnau, a rhaglenni gwaith at ei gilydd.

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu, a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, i ganiatáu ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i fodloni gofynion mandad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

Dogfennau ategol: