Agenda item

Archwilio Cymru - Gosod Amcanion Lles

Cofnodion:

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar y canlynol a gwnaethant gais am eglurder ynghylch y canlynol:

 

·       Nad yw aelodau'n deall yr acronymau a byrfoddau a nodir mewn adroddiadau.

·       Eglurhad pellach ar y defnydd o BI, a'i derminoleg lawn.

 

Aeth SAC ymlaen i ddarparu trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn enwedig canfyddiadau'r gwaith a wnaed. Rhaglenni gwaith parhaus lle mae'n rhaid i'r archwilydd cyffredinol asesu i ba raddau y mae cyrff wedi gweithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Y cwestiwn sylfaenol yr oedd yr adolygiad yn ceisio ei ateb oedd sut y mae'r cyngor wedi gweithredu'n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod ei amcanion lles newydd.

 

Tynnwyd sylw'r aelodau at atodiad 1 yr adroddiad, sy'n nodi dangosyddion cadarnhaol sy'n dangos beth yw amcanion lles da i'r awdurdod wrth iddynt benderfynu ar amcanion lles sefydledig. Ni adolygwyd pob dangosydd yn y broses.

 

Yn gyffredinol, nodir y casgliad ar dudalen 44 yr adroddiad, lle canfuwyd bod y cyngor wedi cymhwyso'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy ac wedi ymgysylltu'n helaeth wrth benderfynu ar ei amcanion Lles ond bydd angen datblygu ei drefniadau monitro ymhellach. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai angen rhoi datblygiadau pellach mewn perthynas â threfniadau monitro ar waith. Dyma enghreifftiau a gyflwynwyd i'r Pwyllgor o'r canfyddiadau i ddangos y canlyniad cadarnhaol:

·       dealltwriaeth o dueddiadau ac anghenion y dyfodol a'r statws tymor hwy fel y nodir yn y Cynllun Corfforaethol, a ystyriwyd yn ymarfer defnyddiol. Ystyriwyd bod ymgysylltu â phartneriaid, sefydliadau mewnol ac allanol etc yn effeithiol ac roedd wedi cynorthwyo wrth lunio'r amcanion lles.

·       Y trydydd canlyniad cadarnhaol a nodwyd, oedd bod gan bob amcan lles ei arweinydd cyfrifol ei hun, dan arweiniad Cyfarwyddwyr unigol. Tynnwyd sylw hefyd at themâu trawsbynciol a phwysigrwydd y rhain.

 

Dywedwyd wrth yr aelodau bod sawl maes gwella gan gynnwys:

·       Mae rhagor o waith i'w wneud i ddeall yn llawn sut a phryd y bydd partneriaid y cyngor yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ei Amcanion Lles ac i fynegi hyn yn glir mewn cynlluniau adfer gwasanaethau.

·       Dylai'r cyngor ddatblygu dealltwriaeth gliriach o ran sut y mae'n defnyddio'i adnoddau i gyflawni ei Amcanion Lles. Bydd gwneud hyn yn cryfhau'r berthynas rhwng ei ddyraniad adnoddau a chyflawni ei flaenoriaethau.

·       Mae angen datblygu'r trefniadau ar gyfer monitro'r broses o ddarparu Amcanion Lles ymhellach. Yn enwedig o ran sicrhau bod y gyfres bresennol o fesurau'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau gan y bydd hyn yn ei helpu i wella sut mae ei fesurau'n gwneud cynnydd ar yr Amcanion Lles trawsbynciol.

Roedd y meysydd ar gyfer gwella wedi bod yn sail i'r argymhellion a ganfuwyd ar dudalen 48 o'r pecyn adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Aeth y Cadeirydd ymlaen i ofyn am eglurhad o'r defnydd o dalfyriad "Power BI" o fewn yr adroddiad. Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru fod "Power BI" yn ddarn o feddalwedd a ddefnyddiwyd i ddelweddu gwybodaeth perfformiad ac i gyflwyno gwybodaeth o'r fath mewn fformat amgen. Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid wrth y Pwyllgor fod tîm data newydd wedi'i sefydlu o fewn yr adran gwasanaethau digidol i roi "Power BI" ar waith. Dywedwyd wrth y pwyllgor hefyd fod BI yn golygu Deallusrwydd Busnes, at ddibenion egluro. Aeth y Cadeirydd ymlaen hefyd i gyfeirio'n glir at ddehongliad gofalus a ddefnyddir mewn adroddiadau, e.e. Cyflwyno gwybodaeth ddefnyddiol ac yna defnyddio geiriau megis, "fodd bynnag".

 

Aeth swyddogion ymlaen i dwyn sylw'r pwyllgor at dudalen 56 o becyn adroddiad yr agenda ac ymateb y cyngor i'r argymhellion, a gyflwynwyd i'r Cabinet ar 20 Medi 2023 ac a gafodd eu cymeradwyo yn ystod y cyfarfod hwn. Gellir gweld pob ymateb ar ffurf pwynt bwled yn erbyn pob argymhelliad a amlinellwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Mae'r cynllun corfforaethol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf o 2024 ymlaen yn cael ei ddiwygio ar hyn o bryd gan yr awdurdod, gyda'r canlyniad i'r pedwar amcan lles yn cael eu cymryd o'r ymgyrch Parhewch i Sgwrsio. Dywedodd swyddogion y byddai hyn yn gyfle da i bartneriaid helpu a chefnogi'r cyngor i gyflawni'r amcanion. Mae'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag adolygu'r cynllun corfforaethol ar gyfer 2024 ymlaen. Nodwyd cydnabyddiaeth nad oes gan fframwaith Rheoli Perfformiad Corfforaethol cyfredol fasged o fesurau canlyniadau.

 

Aeth yr aelodau ymlaen i longyfarch Swyddfa Archwilio Cymru ar yr adroddiad a nodwyd y canlyniadau cadarnhaol i'r cyngor.

 

 

Penderfynwyd:

Nodi'r adroddiad er gwybodaeth.

 

 

Dogfennau ategol: