Cofnodion:
Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Aeth yr Aelodau ymlaen i ofyn am eglurder ynghylch y pwynt
canlynol:
·
Gwybodaeth am statws
chwarterol ac adroddiadau sydd ar ddod. Dyddiadau cwblhau ac a ydy'r rhain wedi
cael eu cyflawni.
·
Diweddariad Estyn
·
Cwmpas Astudiaeth Ffoaduriaid
o Wcráin
Darparodd Swyddfa Archwilio Cymru ddiweddariad i nifer o adroddiadau.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau, roedd yr adroddiad o'u blaenau heddiw yn ymwneud
â'r chwarter cyntaf, mis Ebrill 2023 i fis Mehefin 2023, a disgwylir chwarter
dau, mis Medi 2023 i fis Rhagfyr 2023, yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Dywedodd swyddogion fod yr archwiliad Cyfrifon ar gyfer 2022-2023 bron â
chael ei gwblhau, gan gynnwys ISA 260, y gall Aelodau ddisgwyl ei weld yn ystod
cyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Mae'r archwiliad
perfformiad ar gyfer 21 - 22 hefyd bron â chael ei gwblhau a dylai aelodau
gallu gweld yr adroddiad cyn Nadolig 2023. Mae nifer o adroddiadau wedi cael eu
cymeradwyo'n ddiweddar gan Swyddfa Archwilio Cymru gan gynnwys yr adolygiad
Thematig Digidol, a'r adolygiad craffu. Mae disgwyl i'r Aelodau weld pob
adroddiad dros y misoedd nesaf.
O dudalennau 22 ymlaen mae'r astudiaethau cenedlaethol sydd i'w gweld ym
mhecyn yr agenda a ddosbarthwyd.
Roedd Swyddfa Archwilio Cymru'n gallu cadarnhau diweddariadau sy'n ymwneud
ag Estyn a AGC a gellid eu gweld ar dudalen 24 o'r pecyn adroddiad a
ddosbarthwyd, sy'n amlinellu unrhyw ddiweddariadau o'r chwarter cyntaf, o 1
Ebrill 2023 ymlaen, a hyd at ac yn cynnwys 30 Mehefin 2023.
Bydd diweddariadau ynghylch chwarter 2, 1 Gorffennaf 2023 hyd at 30 Medi
2023, yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio a drefnwyd.
Cyfeiriodd yr aelodau at y tabl o adroddiadau a oedd ar y gweill, yn
enwedig ynghylch ffoaduriaid o Wcráin. Gallwch ddod o hyd iddo ar dudalen 29
o'r pecyn adroddiad a ddosbarthwyd. Holodd yr Aelodau a oedd yr arian a
dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y gwasanaeth
hwn yn unig, a faint o gyllid a dderbyniwyd. A gafodd yr arian ei ddefnyddio o
fewn y flwyddyn ariannol bresennol, ac os felly, faint o'r arian a wariwyd ar
lety awdurdodau lleol a llety preifat.
Dywedodd Swyddfa Archwilio Cymru, yn anffodus, nad oedden nhw'n gallu
darparu ateb i'r cwestiwn yn ystod y cyfarfod ond y bydden nhw'n anfon
gwybodaeth am gwmpas Astudiaeth Ffoaduriaid o Wcráin at y Pwyllgor ar ôl y
cyfarfod. Gofynnodd y Cadeirydd i'r wybodaeth gael ei dosbarthu i holl
aelodau'r Pwyllgor.
Cadarnhaodd Swyddfa Archwilio Cymru y byddai diweddariad o'r cymhorthdal
budd-daliadau tai rhannol gyflawn a'r effeithiau ariannol i'r awdurdod yn cael
eu darparu yn dilyn y cyfarfod.
Llwyddodd Swyddfa Archwilio Cymru i gadarnhau ymhellach statws adroddiad
thematig Llamu Ymlaen, gan hysbysu aelodau o chwarter tri ymlaen y byddai pob
cyngor ledled Cymru yn derbyn yr adroddiadau thematig ar gyfer eu cynghorau, ac
nad oedd yr oedi yn ymwneud â Chyngor CNPT yn unig. Mae gwaith thematig
Cynaliadwyedd Ariannol 2023-24 ynghyd â'r gwaith thematig Comisiynu a Rheoli
Contractau ill dau yn cael eu hystyried fel y cynlluniwyd.
Aeth yr aelodau ymlaen i holi am bennu dyddiadau cau cyffredinol, gyda
Swyddfa Archwilio Cymru'n cadarnhau bod dyddiadau fel arfer yn cael eu
penderfynu bob blwyddyn, gyda rhai yn dibynnu ar eu statws statudol. Mae
materion adnoddau a gafwyd ers y pandemig wedi golygu bod y terfynau amser wedi
cael eu hymestyn, ond bod adnoddau bellach wedi derbyn sylw ac mae cynnydd
bellach yn cael ei wneud yn gyflym i gwblhau gweddill gwaith 21-22 a 22-23 ac y
bydd y Pwyllgor yn gweld llawer o adroddiadau archwilio dros y misoedd nesaf a
fydd yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr ag ymatebion sefydliadol y cyngor.
Penderfynwyd:
Nodi'r adroddiad er gwybodaeth.
Dogfennau ategol: