Cofnodion:
Cyflwynodd
y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad, gan amlinellu'r gyfran
arfaethedig o seddi ar bwyllgorau'r cyngor i'r grwpiau gwleidyddol. Daw hyn yn
sgîl hysbysiad y Cyng. Angharad Aubrey ei bod yn bwriadu eistedd fel aelod o
grŵp Rhyddfrydol a Gwyrdd Coedffranc.
Rhoddodd
y Cyng. Aubrey ddatganiad byr i'r cyngor ynglŷn â'i phenderfyniad i adael
y Blaid Lafur.
PENDERFYNWYD: Bod y cyngor yn cymeradwyo dyrannu seddi'n
gymesur i'r grwpiau gwleidyddol fel y'u nodir yn Atodiad 1:
Bod y cyngor yn cymeradwyo'r newidiadau i aelodaeth
pwyllgorau fel y nodir yn yr adroddiad.
• Bod y Cyng. S Thomas yn
cael ei ddileu fel aelod o'r Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu.
• Bod y Cyng. S Thomas yn
cael ei ddileu fel aelod o'r Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo.
• Bod y Cyng. A Aubrey yn
cael ei ddileu fel aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
• Bod y Cyng. S Grimshaw yn
cael ei benodi'n aelod o'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
• Bod y Cyng. S Thomas yn
cael ei ddileu fel aelod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
• Bod y Cyng. S Reynolds yn
cael ei benodi'n aelod o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
• Bod y Cyng. S Reynolds yn
disodli'r Cyng. S Thomas ar y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
• Bod y Cyng. A Aubrey yn
cael ei ddileu fel aelod o'r Panel Apeliadau
• Bod y Cyng. S Paddison yn
cael ei benodi'n aelod o'r Panel Apeliadau
• Bod y Cynghorwyr S Grimshaw
ac S Freeguard yn cael eu dileu fel aelodau o Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun
• Bod y Cynghorwyr S Thomas
ac R Wood yn cael eu penodi fel aelodau o Bwyllgor Craffu Gwasanaethau'r
Amgylchedd, Adfywio a Strydlun
• Bod y Cynghorwyr A Aubrey
ac A Lockyer yn cael eu dileu fel aelodau o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau
Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol
• Bod y Cynghorwyr D
Whitlock ac S Freeguard yn cael eu penodi fel aelodau o'r Pwyllgor Craffu
Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai a Diogelwch Cymunedol.
• Bod y Cyng. A Aubrey yn
cael ei ddileu fel aelod o'r Panel Rhianta Corfforaethol
• Bod y Cyng. S Freeguard
yn cael ei benodi'n aelod o'r Panel Rhianta Corfforaethol
• Bod y Cyng. D Whitelock
yn cael ei ddileu fel aelod o'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles
• Bod y Cyng. D Keogh yn
cael ei benodi'n aelod o'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles
• Bod y Cyng. A Lockyer ac
S Renkes yn cael eu penodi’n ddirprwyon ar y Panel Apeliadau
• Bod y Cyng. A Aubrey yn cael
ei benodi'n aelod o'r Pwyllgor Cofrestru a Thrwyddedu.
• Bod y Cyng. A Aubrey yn
cael ei benodi'n aelod o'r Pwyllgor Deddfau Trwyddedu a Gamblo
• Bod y Cyng. N Goldup John
yn cael ei ddileu fel aelod o'r Pwyllgor Cynllunio
• Bod y Cyng. A Aubrey yn
cael ei benodi'n aelod o'r Pwyllgor Cynllunio
• Bod y Cyng. K Morris yn
cael ei ddileu fel aelod o'r Pwyllgor Personél
•
Bod y Cyng. J Jones yn cael ei benodi'n aelod o'r Pwyllgor Personél.
Dogfennau ategol: