Cofnodion:
Penderfyniad:
Nodi'r
adroddiad, a sefydlu Panel Strategaeth y Gyllideb, gyda'r cylch gorchwyl a'r
aelodaeth a nodwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.
Rheswm dros
y penderfyniad:
I sicrhau
bod pob grŵp gwleidyddol yn cael cyfle ffurfiol i lunio cynigion cyllideb
ar gam ffurfiannol, sy'n ychwanegol at y mecanweithiau sydd eisoes yn bodoli.
Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu gwleidyddol ehangach ar adeg pan
fo maint y gyllideb yn heriol ac mae lefel y risg a'r ansicrwydd yn sylweddol.
Bydd hyn yn lliniaru'r amserlen gyddwysedig sy'n debygol o fod yn angenrheidiol
os yw llywodraethau'r DU a Chymru yn darparu hysbysiadau hwyr iawn o'r gyllideb
sydd ar gael, fel y nodir ar hyn o bryd.
Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith:
Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: