Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Diwygiad i is-ddeddf sy'n gwahardd beicio ger Gatiau Coffa Castell-nedd ac ar hyd y llwybr rhwng y pwll gwaelod a Chilgant Cimla

 

Roedd yr Aelodau'n poeni am y perygl i unrhyw feicwyr anghyfrifol sy'n beicio'n gyflym i lawr y bryn drwy'r gatiau. Roedd yr Aelodau eisiau gwybod a oedd hi'n bosib agor y ddwy gât ochr fel y byddai'n rhaid iddynt ddod oddi ar eu beic i basio.

 

Holodd yr Aelodau a fyddai'r gatiau ar agor yn ystod digwyddiadau coffa pwysig fel Brwydr Prydain neu'r Cadoediad. 

 

Dywedodd Swyddogion mai adroddiad gweithdrefnol oedd hwn i ymgynghori ar gael gwared ar wahardd beicio. Er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Teithio Llesol, byddai angen i Swyddogion sicrhau bod y prif gatiau'n aros ar agor.

Dywedodd Swyddogion na fydden nhw'n cael cefnogaeth pe bai'n rhaid i feicwyr ddod oddi ar eu beic wrth y gatiau. Dywedodd Swyddogion y byddai swyddogion ar gyfer gwasanaethau coffa yn atal y gorchymyn ac yn cau ffyrdd i hwyluso'r digwyddiadau. Pe bai'r gatiau'n aros ar agor, ar ôl y gwasanaethau, byddai torchau'n cael eu gosod mewn ffordd na fydd yn achosi rhwystr i'r beicwyr.

 

Roedd yr Aelodau am gadw mewn cof ei fod yn gofeb ac i gadw pobl yn ddiogel.

 

Dywedodd Swyddogion y gallai fod modd ystyried arwyddion ychwanegol i wneud pobl yn ymwybodol o'r angen i barchu'r cofebau wrth feicio heibio ac i fod yn ofalus.

 

Teimlai'r Cadeirydd fod y pwynt am barchu'r cofebau yn un da ac y byddai Aelodau o'r cyhoedd yn gwerthfawrogi pe byddai'n cael ei adlewyrchu yn yr ymgynghoriad.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oedd rhan ar wahân o'r llwybr wedi'i neilltuo ar gyfer beicwyr.

 

Dywedodd Swyddogion fod y llwybr wedi'i ddylunio felly mewn egwyddor, a bydd Swyddogion yn ymgynghori ymhellach ar yr hyn fydd y cynigion. Efallai y bydd rhannau ohono'n llwybr a rennir, ac efallai y byddant yn gallu cyflawni llwybrau beicio a llwybr troed i gerddwyr ar wahân mewn ardaloedd eraill.  Ymgynghorir ar hyn yn y cam dylunio manwl.

 

Esboniodd Swyddogion mai rhan fach yn unig o'r llwybr Teithio Llesol yw hwn.

 

Gofynnodd yr Aelodau sut mae llwybrau yn cael eu nodi a'u blaenoriaethu. Nid oedd yr Aelodau'n credu bod hyn yn flaenoriaeth amlwg o'i gymharu â llwybrau eraill mewn mannau eraill.

 

Dywedodd Swyddogion fod y llwybr rhwydwaith mabwysiedig ar gyfer yr awdurdod wedi nodi 500 o lwybrau. Nid oes canllawiau clir bellach gan Lywodraeth Cymru na Thrafnidiaeth Cymru ar sut i flaenoriaethu'r rhain. Ar hyn o bryd, mae llwybrau blaenoriaeth uchel, isel a chanolig. Mae Swyddogion yn aros am offeryn meddalwedd sy'n mynd i helpu awdurdodau lleol i flaenoriaethu'r cynlluniau ymhellach.

 

Esboniodd Swyddogion y byddant wedyn yn ceisio darparu'r rhain yn seiliedig ar ailasesu blaenoriaethu llwybrau gyda'r bwriad o sicrhau grantiau i gyflawni'r rheini. Bydd rhai cynlluniau yn cael eu cyflwyno ar wahanol gamau gan y gallai fod angen prynu tir gan bartïon preifat ar gyfer rhai llwybrau ac efallai y bydd ymgynghori hefyd gydag ymgyngoreion statudol.

 

Yn dilyn craffu roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus GDMAC - Glan Môr Aberafan

 

Cyflwynodd Swyddogion yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd i'r Aelodau.

 

Mynegodd yr Aelodau gefnogaeth i adnewyddu'r gorchymyn ac roeddent yn teimlo bod y gwaharddiadau blaenorol wedi cadw glan y môr yn fwy diogel. Gofynnodd yr Aelodau i Swyddogion ystyried defnydd cynnar neu hwyr o'r traeth ar gyfer pobl a allai fod eisiau cerdded eu cŵn cyn/ar ôl gwaith.

 

Cytunodd yr Aelodau eu bod wedi cael adborth tebyg gan breswylwyr a cherddwyr cŵn am yr amseru a bod y GDMAC ambell waith yn atal perchnogion cŵn cyfrifol sy'n ystyriol ac yn codi baw cŵn i gerdded eu cŵn yn gynharach neu'n hwyrach.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai wedi hoffi gweld hyn yn cael sylw fel cwestiwn penodol yn yr ymgynghoriad ond ei fod wedi derbyn bod adran ynddo lle gellid cynnwys adborth ar unrhyw fater.

Dywedodd Swyddogion eu bod wedi gwneud ymchwil gydag awdurdodau arfordirol eraill, ac mae'r awdurdodau hynny wedi nodi eu bod wedi ei chael hi'n anodd rheoli mewn perthynas â gorfodi. Dywedodd Swyddogion fod dau fater, cŵn oddi ar dennyn a baw cŵn. Mae Swyddogion yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn ystyriol ac yn casglu baw cŵn ar eu hôl ond mae'r rheini nad ydynt yn gwneud yn achosi risg i iechyd. Nododd Swyddogion fod yr adroddiad heddiw ond yn gofyn am ganiatâd ar gyfer ymgynghori.

 

Yn dilyn craffu, roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) - Cytundeb Cyflawni Diwygiedig (CC)

 

Cyflwynodd Ceri Morris yr adroddiad gan egluro, er ei bod yn siomedig gorfod cyflwyno'r adroddiad, dyma'r ymagwedd gywir o ailosod y cloc ar amserlen y CDLlN. Dywedodd Swyddogion eu bod wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru (LlC) a'u bod yn deall yr heriau ac yn cefnogi'r ymagwedd. Felly, nid yw Swyddogion yn credu y bydd problemau gyda Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo hyn.

 

Gofynnodd yr Aelodau beth fydd yn cael ei wneud yn wahanol y tro hwn fel y gellir cael canlyniad gwell? Nodwyd ar dudalen 70 na fydd sawl cyfyngiad fel halogiad, perygl llifogydd, isadeiledd etc. yn newid. Roedd yr Aelodau eisiau gwybod pa ddatrysiadau y mae Swyddogion yn eu hystyried. Roedd yr Aelodau hefyd eisiau gwybod beth sy'n cael ei wneud yn wahanol i gael mwy o gyflwyniadau neu gyflwyniadau gwahanol ar gyfer safleoedd ymgeisiol.

 

Dywedodd Swyddogion y byddai'r amserlen ddiwygiedig yn darparu blwyddyn ychwanegol ar gyfer paratoi cynlluniau. Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma yn parhau'n berthnasol sy'n golygu y gall Swyddogion ganolbwyntio ar edrych ar y datrysiadau.

 

Mae'r awdurdod wedi tangyflawni wrth adeiladu tai, gan adeiladu 100 o unedau yn unig yn 2021-22 a 100 o unedau yn 2022-23, ac o ystyried y lefelau twf, roeddent yn bwriadu adeiladu 277 o unedau, felly bydd yr amserlen ddiwygiedig yn galluogi i'r tangyflawniad ym mlynyddoedd cynnar y cynllun newydd, i gael ei ddatrys.

 

Esboniodd Swyddogion y byddant yn gwneud galwad arall am safleoedd ymgeisiol ac yn croesawu awgrymiadau ar gyfer safleoedd ymgeisiol gan Aelodau. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod astudiaeth gallu trefol y mae Swyddogion yn edrych arni, ym mhob cymuned ar gyfer ceisiadau cynllunio yn y gorffennol nad ydynt wedi'u rhoi ar waith eto.

 

Mae Swyddogion wedi cynnal dadansoddiad is-ranbarthol gydag Abertawe a byddant yn siarad â nhw a Phowys i weld a yw'r twf a'r tir sydd ei angen yn cyd-fynd â'i gilydd. Bydd Swyddogion hefyd yn edrych ar yr hyn y bydd goblygiadau'r Porthladd Rhydd yn ei olygu i'r fwrdeistref sirol.

 

Bydd angen i Swyddogion edrych ar batrymau cymudwyr a gweithio gartref a gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ynghylch materion isadeiledd. Bydd yr Asesiad Effaith Strategol a data ffôn yn helpu Swyddogion i ddadansoddi hyn. Dywedodd Swyddogion hefyd am yr angen i ystyried effaith y Metro ac maent yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru yn hynny o beth.

 

Mae'r amser ychwanegol yn caniatáu i Swyddogion archwilio safleoedd mawr fel Coed Darcy i drafod gyda thirfeddianwyr a datblygwyr ar sut i symud y safleoedd strategol hyn ymlaen.

 

Roedd yr Aelodau yn falch o glywed yr ymagwedd hon ond yn teimlo bod rhywfaint ohoni'n swnio fel newid diffiniad y rhifau yn hytrach na'r tir sydd ar gael. Mae siarad â'r safleoedd mawr lle mae problemau yn bwysig ac mae cael trafodaethau am isadeiledd â Thrafnidiaeth Cymru yn dda er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r problemau sy'n ymwneud ag isadeiledd ac mae'r drafnidiaeth i'r cymoedd yn hanfodol fel dewis arall i bobl ddefnyddio eu ceir.

 

Dywedodd Swyddogion eu bod, o ran proses y safle ymgeisiol, wedi trafod gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch sut y gallant adolygu'r trothwy o dystiolaeth sydd ei hangen ar y rheini sy'n cyflwyno safleoedd. Mae hyn wedi atal pobl rhag cyflwyno safleoedd, felly maen nhw'n edrych ar geisio lleihau'r baich ar y cam cynnar hwn i geisio cael mwy o gyflwyniadau i'w hadolygu.

 

Eglurodd Nicola Pearce, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, fod llawer o gyfleoedd datblygu economaidd cyffrous yn dod i mewn i CNPT, felly bydd hyn yn helpu i roi tawelwch meddwl i ddatblygwyr wrth gael marchnad ar gyfer eu cynnyrch fel cyfle'r Porthladd Rhydd ac roedd safleoedd a phrosiectau cymunedol y cymoedd yn anhysbys pan gawsant eu cyflwyno diwethaf ar gyfer safleoedd ymgeisiol.

Gofynnodd yr Aelodau pa effaith y byddai'r oedi CDLlN yn ei gael ar is-bwyllgor cynllunio'r cyd-bwyllgor corfforedig.

 

Esboniodd Swyddogion eu bod yn brosesau ar wahân o ystyried eu bod yn ddwy haen wahanol o gynllun datblygu. Er bod oedi hefyd o ran cyflwyno'r Cynllun Datblygu Strategol (CDS), oherwydd y sefyllfa sy'n ymwneud ag adnoddau, mae gan Lywodraeth Cymru safbwynt na ddylai awdurdodau cynllunio lleol roi'r gorau i baratoi'r Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl). Er bod angen i CDLlau a CDSau fod yn unol â'i gilydd, maent yn brosesau ar wahân.

 

Mae llawer o'r gwaith ar y cyd sydd wedi'i wneud ar draws y rhanbarth, y materion ehangach a lleol yn cael eu hystyried ar y cyd. Mae'r gwaith yn cefnogi'r CDLlau unigol ond bydd hefyd yn darparu'r blociau adeiladu ar gyfer y CDS. Gyda chyfanswm o dair haen o gynllun datblygu yng Nghymru, bydd heriau bob amser wrth eu cydlynu, yn enwedig yr amserlenni ar gyfer paratoi.

 

Yn dilyn craffu, roedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Adolygiad Parcio 2023

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y pwyllgor wedi cynnal cryn dipyn o graffu ar y cynigion hyn yn y grŵp gorchwyl a gorffen gyda'r argymhellion hynny wedi'u cynhyrchu ac yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Craffu. Mynegodd yr Aelodau bryderon sylweddol am effaith y cynigion ar fusnesau, preswylwyr, a phobl anabl a maint yr ymgynghoriad. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau bod Aelodau'r Cabinet wedi gohirio'r penderfyniad yng nghyfarfod mis Gorffennaf. Atgoffodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud gan Aelodau'r Cabinet ac nid y Pwyllgor Craffu. Dywedodd y Cadeirydd fod yr adroddiad, i raddau helaeth, yr un peth â'r un ym mis Gorffennaf ond roedd yn cydnabod rhai o bryderon y pwyllgor ar anabledd. Croesawodd y Cadeirydd yr Asesiad Effaith diweddaredig ond nododd nad oedd yn cynnwys unrhyw newidiadau i'r cynigion.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon nad oedd llawer o bwyntiau a godwyd y tro diwethaf wedi cael sylw. Roedd yr Aelodau'n poeni am y ffïoedd parcio a'r cais i'r pwyllgor geisio codi arian drwy'r ffïoedd. Dywedodd yr Aelodau fod VIVA Port Talbot wedi bod yn gweithio'n galed ar adfywio canol y dref. Teimlai'r Aelodau nad oedd isafswm cyfreithiol cyfnod ymgynghori yn briodol ar gyfer y lefel hon o newid i fusnesau yn yr ardal ac roedd yr Aelodau'n siomedig nad oedd unrhyw newid wedi ei wneud mewn perthynas â hynny. Mynegodd yr Aelodau eu syndod hefyd nad yw'r adroddiad yn dangos yr effaith ar bobl anabl.

 

Dywedodd Swyddogion y bydd 2 ymgynghoriad statudol, un ar gyfer y tariffau ar gyfer meysydd parcio oddi ar y stryd a'r llall ar gyfer ymgynghoriad strategaeth ar unrhyw ddiwygiadau i orchmynion rheoleiddio traffig ar y stryd. Dywedodd Swyddogion y byddai ymgyngoreion yn cael cyfle i ymateb iddynt. Bydd angen adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Craffu a Bwrdd y Cabinet am unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd i'w hystyried.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod diwrnodau parcio am ddim adeg y Nadolig yng nghanol y dref, yn opsiwn dewisol a gynigiwyd gan y cyngor. Bydd rheolwyr canol y dref yn cynnal ymgynghoriad uniongyrchol â masnachwyr ar ba ddiwrnodau yr hoffent ddewis ar gyfer y cynnig parcio 5 niwrnod am ddim a sut yr hoffent gydlynu'r dyddiadau hynny ag unrhyw ddigwyddiadau a gynhelir ganddynt dros y flwyddyn.

 

Esboniodd Swyddogion eu bod wedi gwneud diwygiad i'r AEI. Dywedodd Swyddogion nad ydynt yn dweud nad yw'n effeithio ar ymwelwyr anabl, ond y gallai effeithio arnyn nhw, ac ar ôl cael cyngor gan y swyddog cydraddoldebau, roedden nhw'n fodlon ei fod yn adlewyrchu sefyllfa'r Swyddogion yn yr AEI.

 

Dywedodd yr Aelodau Lleol eu bod yn siomedig gyda'r adolygiad parcio a'i argymhellion. Teimlai'r Aelodau fod y cyngor a VIVA Port Talbot wedi gweithio'n galed i gynyddu nifer yr ymwelwyr ac roeddent yn teimlo y bydd yr adroddiad hwn yn cael effaith negyddol ar nifer yr ymwelwyr. Derbyniodd yr Aelodau fod pwysau cyllidebol ond roeddent yn pryderu nad oedd y cynnig yn cyfiawnhau'r effaith ehangach ar Bort Talbot ac yn erbyn cynnydd mewn ffïoedd.

Mynegodd yr Aelodau'r farn bod angen rhoi'r un gefnogaeth i fasnachwyr ardal y traeth a chanol y dref â datblygwyr sy'n bwriadu adeiladu yn yr ardal.

 

Teimlai'r Aelodau y bydd y newidiadau'n creu cynnydd mewn ceisiadau am fathodynnau glas.

 

Darllenodd yr Aelodau ddatganiad gan Gadeirydd bwrdd VIVA Port Talbot.

 

Siaradodd yr Aelodau ar ran masnachwyr Castell-nedd ac roeddent yn annog Swyddogion i fod yn ofalus o achosi problem i bobl a fyddai'n dymuno galw heibio yn gyflym am rywbeth o'r dref ond a allai gael eu digalonni, byddai'r tariff isel am yr awr gyntaf yn helpu hyn.

 

Esboniodd yr Aelodau nad yw'r masnachwyr yn teimlo yr ymgynghorwyd â nhw'n briodol gan y bydd hyn yn effeithio'n fawr arnynt. Mae refeniw a wneir adeg y Nadolig yn para tan fis Ionawr i fasnachwyr yng Nghastell-nedd, ac nid ydynt yn siŵr y bydd y parcio am ddim ym mis Ionawr yn gwrthbwyso hynny. Apeliodd yr Aelodau i'r Cabinet ar ran masnachwyr Castell-nedd i ailfeddwl am hyn ac annog ymwelwyr i'r trefi.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dwf Economaidd ei fod wedi cysylltu â VIVA Port Talbot i gael eu barn oherwydd sylwadau o'r cyfarfod diwethaf ond ni chafodd ymateb o'r cyfarfod hwnnw, fodd bynnag, roedd wedi gwrando ar y datganiad a ddarllenwyd. Hoffai ddod yn agos at gymunedau ym mhob un o ganol trefi'r awdurdod fel y gallai gael adborth cyn cyflwyno newidiadau.

 

Cododd yr Aelodau’r mater o'r effaith ar bobl anabl a phwysleisiodd mewn cyfarfodydd craffu blaenorol, oherwydd eu hanabledd y gallent fod yn cael eu cyfyngu i adegau penodol o ran cael mynediad at wasanaethau, ac mae cael gwared ar y man 1 awr am ddim yn mynd i effeithio'n ddifrifol ac yn anghyfartal arnynt gan fod y rhan fwyaf o bobl anabl ar fudd-daliadau neu incwm sefydlog.

 

Anogodd yr Aelodau Swyddogion i ailfeddwl am gael gwared ar yr awr am ddim oherwydd yr effaith ar bobl anabl a phobl â phroblemau iechyd meddwl. Dywedodd yr Aelodau fod busnesau ar lan y môr wedi cyflwyno sylwadau am unrhyw newidiadau sy'n atal cwsmeriaid rhag stopio i godi rhywbeth ganddynt yn gyflym. Dywedodd yr Aelodau hefyd fod rhai o'r taliadau yn uwch na'r ffïoedd o 5-10% a'r codiadau mewn ffïoedd a bennwyd gan y weinyddiaeth bresennol a awgrymwyd yn flaenorol.

 

Gwnaeth Swyddogion ymateb cyffredinol i'r materion a godwyd. Roeddent yn deall ei bod yn gyfnod anodd i bobl o ran fforddio cynnydd mewn ffïoedd, ond oherwydd y broblem sylweddol yn y gyllideb mae swyddogion yn gorfod cynyddu ffïoedd gan nad oes ganddynt ddewis arall. Dywedodd Swyddogion eu bod yn edrych ar ffyrdd o gynyddu incwm a lleihau costau fel y gallant barhau i ddarparu'r lefel o wasanaeth y mae'r awdurdod yn ei ddarparu ar hyn o bryd os nad gwell lefel o wasanaeth.

 

Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod cefnogaeth i'r mwyafrif helaeth o'r cynigion yn yr adroddiad a bod cyfnod hir wedi bod lle nad oedd y cyngor wedi codi tâl am barcio ceir a gwnaed y penderfyniad anodd i godi tâl yn ystod adeg o gyni, i alluogi'r awdurdod i gynnal meysydd parcio.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gwaith cynnal a chadw sylweddol yn cronni oherwydd y diffyg arian sydd ar gael ond bydd pobl yn talu am wasanaethau os ydynt o ansawdd da. Eglurodd Swyddogion nad yw rhai o'r meysydd parcio yn cael eu cynnal i'r safon yr hoffai Swyddogion ac mae adroddiad yn cael ei baratoi ar ddarpariaeth parcio ar draws y fwrdeistref sirol. Mae hwn yn edrych ar ddefnydd a galw ac os oes unrhyw botensial i israddio nifer y meysydd parcio yn CNPT a defnyddio rhai o'r rhain at ddibenion amgen.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod llawer o ddarnau o waith a fydd yn llywio cyfleoedd creu incwm a sut y gellir cefnogi canol trefi a chyrchfannau eraill yn y dyfodol i gynyddu nifer yr ymwelwyr a'u gwneud yn fwy deniadol iddynt. Tynnodd Swyddogion sylw at Gynlluniau Bro sy'n cael eu datblygu ar gyfer canol y trefi a rhai o ganolfannau ardal i nodi pa gyfleoedd adfywio y gellid edrych arnynt ymhellach a sicrhau cyllid i'w gwneud yn fwy deniadol a dod â mwy o bobl i ganol trefi.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gwaith ar hyfywedd a bywiogrwydd canol trefi yn cael ei wneud mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae Swyddogion yn ymwybodol bod rhai o ganol trefi yn sylweddol o ran maint ac mae sawl eiddo gwag ac eiddo preswyl yn ymddangos yng nghanol trefi. Roedd Swyddogion yn edrych ar faint a lleoliad canol trefi i ganolbwyntio gweithgareddau o fewn ardal lai i gynyddu bywiogrwydd fel rhan o'r CDLl.

 

Eglurodd Swyddogion fod tîm canol tref bach yn cael ei ailstrwythuro ac roedd ei gylch gorchwyl a'i flaenoriaethau hefyd yn cael eu hystyried. Mae'r tîm yn gweithio gyda'r masnachwyr a'r AGB ym Mhort Talbot i geisio nodi pa ddigwyddiadau neu weithgareddau sy'n dod â phobl i ganol trefi a'r hyn sydd wedi bod yn effeithiol o'r blaen drwy ddadansoddiad.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod cyllid wedi'i sicrhau i ymgymryd â strategaeth glan y môr i weld beth fyddai angen ei wneud i'w gwneud yn fwy deniadol i ymwelwyr ac i bobl aros yn hwy a gwario arian yn y busnesau a'r cyfleusterau yn yr ardal.

 

Esboniwyd i'r Aelodau bod llawer yn cael ei wneud i wella dengarwch ond ni allant fforddio rheoli'r meysydd parcio ar yr incwm sy'n cael ei greu ar hyn o bryd ac mae angen iddynt gynyddu'r incwm er mwyn buddsoddi yn y cyfleusterau hynny y maent am eu cynnal yn y tymor hir.

 

Nododd Swyddogion y gallai rhai cynghorau weithredu parcio am ddim, ond canol tref Llanelli yn unig sy'n gweithredu cynnig amgen i Gastell-nedd Port Talbot ac mae'r taliadau wedi'u meincnodi yn erbyn awdurdodau eraill.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod yr awdurdod hefyd yn talu tuag at yr AGB ac nid yw pob talwr AGB yn erbyn codi tâl. Tynnodd Swyddogion sylw'r Aelodau at y ffaith mai'r AGB a awgrymodd y syniad o gynnal diwrnodau parcio am ddim ar draws y flwyddyn ac roedd AGB eisiau mwy o ryddid mewn perthynas â phryd fyddai'r diwrnodau parcio am ddim yn cael eu cynnal.

 

Dywedodd Swyddogion eu bod yn edrych ar yr argymhellion ar y lleoedd parcio esielon ar lan y môr, wrth eu bod â chyfyngiad amser. Byddai deiliaid Bathodyn Glas yn cael ei heithrio o'r cyfyngiad amser a'r tâl a godir. Os yw Aelodau'r cyhoedd yn gymwys i gael Bathodyn Glas, dylid eu hannog i wneud cais am un.

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod y penderfyniad i godi incwm eisoes wedi'i wneud a bod y grŵp gorchwyl a gorffen yn gweithio o fewn hynny pan wnaethant eu hargymhellion er mwyn ceisio gwneud yn fawr o'r sefyllfa. Nid yw Aelodau'r pwyllgor o reidrwydd yn cefnogi nac yn hapus gydag egwyddor y ffïoedd parcio ond roeddent yn derbyn ei bod yn anochel o ran y gyllideb.

 

Dywedodd Swyddogion eu bod yn derbyn hynny ac fel Swyddogion nad oeddent ychwaith am fod mewn sefyllfa lle byddai'n rhaid iddynt gynyddu'r ffïoedd chwaith, ond mae'r amgylchiadau'n golygu ei bod yn ofyniad angenrheidiol i gynnal y cyfleusterau hyn ac fel Swyddogion maent hefyd yn defnyddio'r gwasanaethau hyn ac y byddent yn effeithio arnynt hefyd.

 

Diolchodd Swyddogion i'r pwyllgor craffu wrth i lawer o adborth cadarnhaol ddod allan o'r broses honno ac am y ffrydiau gwaith a fydd yn parhau i gael eu datblygu o ganlyniad. Er bod y gyllideb wedi'i gosod, hyd yn oed gyda'r cynigion hyn, byddant yn brin o £25,000 a chafwyd pwysau ariannol eraill hefyd. Bydd y sefyllfa ariannol ar gyfer y cyngor yn heriol, nawr ac yn y dyfodol.

 

Roedd yr Aelodau'n pryderu nad oedd y defnydd o feysydd parcio lle y dylai fod, ac mae cynnal a datblygu'r meysydd parcio i safon uwch yn costio arian ac roeddent yn cwestiynu ai dyma'r camau gweithredu cywir? Amlygodd yr Aelodau hefyd fod trefi eraill yn Rhondda Cynon Taf (RhCT) sydd â pharcio am ddim yn y rhan fwyaf o drefi.

 

Roedd yr Aelodau yn deall y pwysau ac mae angen cynyddu refeniw ond roeddent yn teimlo nad dyma'r ffordd orau. Dywedodd yr Aelodau hefyd na ymgynghorwyd â VIVA Port Talbot o gwbl cyn i'r adolygiad gael ei gwblhau. Dywedodd yr Aelodau fod masnachwyr, ar ôl y Nadolig diwethaf, eisiau parcio am ddim yn gynt na'r Nadolig ac os yw Swyddogion yn ystyried rhagor o ddiwrnodau parcio am ddim, efallai y gallai hynny fod o gymorth. Mynegwyd y farn na fyddai 5 niwrnod yn ddigonol.

 

Teimlai'r Aelodau fod gan Gastell-nedd un o'r meysydd parcio aml-lawr gorau yng Nghymru ac os ydynt fel awdurdod am weld meysydd parcio o'r safon honno ac am gynnal eraill a'u codi i'r safon honno hefyd, yna byddai angen cynyddu ffïoedd gan ei fod yn costio llawer iawn o ran cynnal a chadw a glanhau.

 

Roedd Aelodau'n teimlo bod awdurdodau eraill yn codi llawer mwy na Chastell-nedd Port Talbot.

Eglurodd Aelod y Cabinet mai'r cynnydd mwyaf mewn nifer yr ymwelwyr oedd wrth adfywio yng Nghastell-nedd. Cofnododd Boots y ffigurau uchaf erioed pan wnaethon nhw agor. Mae'r ymrwymiad yn cael ei ddangos gan y tîm adfywio gyda chynlluniau bro a rheolwyr canol y dref. Mae cynyddu nifer yr ymwelwyr yn gwella canol trefi ac mae'n siarad â pherchnogion eiddo yn Stryd y Frenhines i symud pethau ymlaen ac fel ymrwymiad i geisio gwella a chynyddu nifer yr ymwelwyr.

 

Amlygodd Swyddogion fod meysydd parcio am ddim yn dal i fod yn CNPT, yn union fel RhCT a bod Abertawe, o'i gymharu, wedi dileu pob maes parcio am ddim fel rhan o gyflawni cyllideb gytbwys. Dywedodd Swyddogion nad ydynt wedi mynd mor bell â hynny mewn cynigion ond bod yn rhaid iddynt wneud penderfyniadau anodd o gynyddu ffïoedd a gosod ffïoedd mewn ardaloedd eraill lle nad ydynt ar waith ar hyn o bryd. Bydd effeithiolrwydd ac effaith y penderfyniadau hyn yn cael eu hadolygu o fewn 6 mis ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith i gael y cyfle i ddiwygio unrhyw beth nad yw'n gweithio.

 

Mewn perthynas â pharcio'r Nadolig, gwnaethant ystyried sylwadau VIVA Port Talbot ynglŷn â rhagor o hyblygrwydd ar ddiwrnodau parcio ac i beidio â'u cynnal i gyd yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig ac ar ôl hynny. Bydd Swyddogion yn ymgynghori â VIVA, cynghorau tref Castell-nedd a Phontardawe a'r masnachwyr drwy reolwyr canol y dref. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n cael ei gynnal fel rhan o'r broses hon.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn deall yr hyn roedd VIVA Port Talbot yn ei ddweud o ran hyblygrwydd, ond roedd yr adroddiad yn gostwng 17 diwrnod i 5 niwrnod ac mae'n debyg nad oedd VIVA yn bwriadu gweld y gostyngiad hwnnw mewn diwrnodau parcio am ddim pan ofynnon nhw am hyblygrwydd.

 

Yn dilyn craffu, cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd ar bleidlais gofnodedig.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad a amlinellwyd ar dudalen 206 - 209 o adroddiad y Cabinet.

 

O blaid: Y Cynghorydd T Bowen, W Carpenter, R Davies, N Goldup-John.

Yn erbyn: Y Cynghorydd S Pursey, S Freeguard, S Penry, C James, S Grimshaw, L Williams.

 

Nid oedd yr Aelodau’n gefnogol o'r argymhellion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.