Agenda item

Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (2023-2026)

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.           Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid cyflwyno'r canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

a.   Adroddiad Gweithredu'r Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (2020-2023) fel y nodir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

b.   Y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth (2023-2026) fel y nodir yn Atodiad 3 i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.           bod y gweithdrefnau cyhoeddi, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael eu rhoi ar waith.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a sicrhau bod y cyngor yn ymrwymo i gymryd camau i helpu natur i adfer.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

Dogfennau ategol: