Newid Defnydd o Annedd
Breswyl (C3) i Dŷ Amlfeddiannaeth (C4) yn 65 Cwrt Sart, Llansawel SA11 2SR
Cofnodion:
Darparodd Swyddogion gyflwyniad i’r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn
(Newid o
ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO (Dosbarth C4) yn rhif 65, Cwrt Sart,
Llansawel SA11 2SR) fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelod Ward Lleol wedi gofyn i’r cais gael
ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio ac roedd yn bresennol i roi ei sylwadau
yn y cyfarfod.
Yn unol â phrotocol siarad cyhoeddus cymeradwy'r
cyngor, anerchwyd y Pwyllgor Cynllunio gan wrthwynebydd i’r cais.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo
Cais Rhif P2023/0461, yn unol ag argymhellion swyddogion, yn amodol ar yr
amodau a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Dogfennau ategol: