Agenda item

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (yn eithriedig o dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig: 

 

1.                   Bydd y prosiectau a restrir yn Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, a gyflwynwyd o dan Alwad Agored Prosiectau Strategol Castell-nedd Port Talbot, yn cael eu cymeradwyo, ar yr amod bod asesiadau Rheoli Cymhorthdal yn cael eu cymeradwyo gan y Pennaeth Eiddo ac Adfywio.

 

2.                   NI FYDD y prosiectau a restrir yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, a gyflwynwyd o dan Alwad Agored Prosiectau Strategol Castell-nedd Port Talbot, yn cael eu cymeradwyo.

 

3.                   Mewn perthynas â'r cyllid Prosiectau Strategol nas dyrannwyd, ac yn dilyn arfarniad o'r cyllid sydd ar gael, rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid, yr Arweinydd ac Aelod/Aelodau Perthnasol y Cabinet, lansio galwad agored bellach am Brosiectau Strategol neu gronfa Prosiectau Strategol amgen. 

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Er mwyn galluogi Cyngor Castell-nedd Port Talbot i roi Cynllun Gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith a hysbysu ymgeiswyr Prosiectau Strategol o benderfyniad cyllido'r alwad agored.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.