Cofnodion:
Rhoddodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd drosolwg o'r adroddiad a
gynhwyswyd yn y pecyn agenda.
Gofynnodd
yr aelodau pa mor effeithiol oedd y Panel Dinasyddion; pa mor aml mae'n
cyfarfod ac ym mha fforwm. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd y cysylltir â'r panel yn gyffredinol i gael eu barn drwy arolygon
a bod gwybodaeth yn cael ei hanfon yn ôl drwy e-bost at y swyddog
perthnasol. Gellid ceisio adborth ar
bolisïau a threfniadau newydd arfaethedig gan y panel yn ôl yr angen cyn
datblygu polisi. Dywedodd yr aelodau fod yna gyfyngiad ar nifer yr amseroedd yn
flynyddol y gellir cysylltu ag aelodau'r panel.
Nodwyd
yr eitem hon.