Cofnodion:
Rhoddodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd drosolwg o'r Flaenraglen
Waith sy'n cynnwys eitemau safonol sy'n ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol
Cymru a materion eraill i'w hystyried.
Atgoffwyd yr aelodau y dylai unrhyw faterion penodol pellach y gallai'r
aelodau fod eisiau eu hychwanegu at y rhaglen gael eu hysbysu i Gadeirydd y
Pwyllgor, y Gwasanaethau Democrataidd neu eu codi drwy'r cyfarfod hwn.
Nodwyd
y Flaenraglen Waith.